Tri bloc o fflatiau Casnewydd yn methu profion cladin

Cwrt Milton Image copyright Google
Image caption Cwrt Milton yw un o'r tri bloc o fflatiau sydd wedi methu'r profion

Mae cadarnhad bod cladin o dri bloc arall o fflatiau yng Nghasnewydd wedi methu profion diogelwch.

Dywedodd cwmni Cartrefi Dinas Casnewydd, bod profion wedi eu cynnal ar samplau o fflatiau yng Nghwrt Milton, Hillview a Greenwood.

Ychwanegodd bod asesiadau peryglon tân wedi eu diweddaru a bod y mesurau ychwanegol gafodd eu cyflwyno gan y llywodraeth yn dilyn trychineb Tŵr Grenfell, eisoes wedi eu dilyn.

Mae cladin mewn pedwar bloc o fflatiau yn Abertawe hefyd wedi methu'r profion diogelwch newydd.