Cymru yn fy siomi

julia

Mae Cymru yn gartref i bobl o bob cwr o'r byd, ac mae Caerdydd, yn enwedig, yn fan lle mae bob math o ieithoedd gwahanol i'w chlywed ar y stryd.

Mae Julia Richardson yn byw yng Nghymru ers 10 mlynedd, ond mae hi'n wreiddiol o Paris. Daeth Julia yma fel myfyriwr yn 2007, ond yn dilyn y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd y llynedd mae hi'n ystyried symud nôl i Ffrainc gyda'i gŵr sy'n Gymro a'u plentyn 18 mis oed.

Rhannodd Julia ei theimladau gyda Cymru Fyw:


Ro'n i yn astudio yng Nghaerdydd am ddwy flynedd a doedd ddim angen fisa ar gyfer hynny. Wedi i mi benderfynu aros yma i weithio ces i rif Yswiriant Cenedlaethol.

Ers i mi gael swydd rwy' wedi talu'r Yswiriant Cenedlaethol a'r holl drethi eraill. Felly, ges i'r hawl i ddefnyddio'r Gwasanaeth Iechyd a'r cyfleusterau addysg yma.

Fy statws swyddogol yw 'Dinesydd o'r Undeb Ewropeaidd' a dwi'n cael pleidleisio mewn etholiadau 'lleol', fel rhai'r cyngor a'r Cynulliad, ond dwi ddim yn cael pleidleisio mewn rhai sy'n cael eu hystyried yn 'genedlaethol' fel Etholiad Cyffredinol San Steffan neu refferenda ledled Prydain. Mae'r hawl gen i bleidleisio yn etholiadau Senedd Ewrop nôl yn Ffrainc.

Mae'n fater eitha' cymhleth dros Ewrop - pa mor hir dylai rhywun fod yn byw mewn gwlad cyn cael yr hawl i bleidleisio yn yr etholiadau cyffredinol a refferenda? Petai pawb o wledydd yr Undeb Ewropeaidd sy'n byw ym Mhrydain wedi cael pleidleisio y llynedd 'falle bydde'r canlyniad wedi bod yn wahanol, ond roedd e'n gwestiwn mor benodol i Brydain efallai na fyddai hi wedi bod yn deg i ddinasyddion o'r UE i bleidleisio arno.

Ond yr hira' 'da chi'n byw mewn gwlad, y mwya' 'dych chi eisiau iddi eich cynrychioli chi. Ers pleidlais Brexit dwi'n teimlo hyn mwy a mwy, yn enwedig gan bod Llywodraeth Prydain yn anwybyddu barn Llywodraeth Cymru. Dwi eisiau i Lywodraeth Cymru gael mwy o bwerau achos maen nhw'n atebol i mi - does gen i ddim dweud ar faterion yn Nhŷ'r Cyffredin.

Dwi'n teimlo nad oes unrhywun yn San Steffan yn fy nghynrychioli i gan na fedra i bleidleisio drostyn nhw - dydy hi ddim o fantais iddyn nhw fy amddiffyn i ond, er tegwch, mae rhai yn gwneud.

Image caption Julia yn 2007, pan ddaeth i wneud cwrs ym Mhrifysgol Caerdydd

Fy math i o fewnfudo

Y diwrnod wedi'r bleidlais y llynedd ro'n i'n teimlo fel bod y wlad ddim eisiau fi, ac ro'n i eisiau gadael Cymru. Ro'n i'n drist iawn oherwydd bod y rhan fwya' o'r bobl dwi'n gweithio efo nhw wedi pleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd. Roedden nhw'n dweud wrtha i yn bersonol mai nid fi oedd ar fai, ac nid fy math i o fewnfudo - fedra i ddim deall pam bod nhw'n meddwl bod hi'n iawn gwahaniaethu fel 'na.

Felly ro'n i'n teimlo fy mod wedi fy mradychu gan wlad rwyf yn ei charu, achos fe wnaeth Cymru bleidleisio i adael. Rwy' wedi cael dim ond croeso gan bobl yng Nghymru, ac maen nhw wedi bod mor neis efo fi. Ond fe wnaeth y bleidlais y llynedd wneud fi deimlo bod pethe wedi newid.

Fe gymerodd e dipyn i mi bwyllo wedi'r bleidlais, ac ro'n i ffwrdd ar gyfnod mamolaeth felly pan es i nôl i'r gwaith roedd tri mis wedi pasio. Pan es i nôl i'r gwaith nes i resymegu'r cyfan - dydyn ni ddim mewn rhyfel, dyma ddemocratiaeth ac mae'n rhaid i fi jyst gario 'mlaen.

Beth sy'n fy mhoeni i bellach yw'r ochr ymarferol, fy nyfodol fel dinesydd a gorfod talu lot o arian i aros yma. I fod yn onest, dwi ddim yn siŵr os dwi isie aros mewn gwlad sydd ddim eisiau yr un pethau â fi. Dwi'n hoffi cymdeithas gynhwysol ac mae'n bwysig i mi i roi blaenoriaeth i hawliau dynol a materion amgylcheddol.

Image caption Julia gyda ei gŵr Ian, sy'n wreiddiol o ardal Caerfyrddin

Ry'n ni'n ystyried symud tŷ, ond dwi ddim isie gwneud hynny ar y funud achos dydw i ddim yn siŵr os dwi am aros yma, a gan fod fy ngŵr, Ian, wedi priodi Ffrances mae e'n deall y sefyllfa yn iawn. Fydd gadael ddim yn rhywbeth hawdd i'w wneud achos dwi'n caru fy mywyd yng Nghymru a fy ffrindiau, ac i fod yn onest dwi ddim yn gwybod sut wnai ffitio nôl i gymdeithas Ffrengig eto - fe all gymryd amser.

Dwi'n meddwl bydde symud yn rhoi cyfleon gwell i fy merch fach, achos dwi ddim yn siŵr os yw hi yn y lle gorau i dyfu fyny. Mae'n rhaid cydweithio gyda gwledydd eraill a bobl o bob cefndir.

O ran y broses, fe fyddai'n haws i Ian ddod yn Ffrancwr na fyddai hi i fi ddod yn ddinesydd Prydeinig, ac mae hi fwy costus yma. Dydi'r broses o ystyried mewnfudo ddim yn trin bob achos unigol, sy'n eitha' annheg ar y rhai sydd wedi bod yma ers blynyddoedd lawer.

Ond fy mhenderfyniad i oedd dod yma i Gymru yn y lle cyntaf, felly dwi'n derbyn roedd yna risg i fy statws pan benderfynais ddod yma.

Gan mai fi wnaeth y dewis i ddod yma, fy nghyfrifoldeb i ydy cymryd rheolaeth ac ystyried symud nôl os nad ydw i'n hapus â'r sefyllfa yma.