Tour de France: Geraint Thomas yn colli'r crys melyn

froome a thomas Image copyright EPA
Image caption Mae Chris Froome (crys gwyn) bellach ar y blaen y Geraint Thomas (melyn)

Roedd pumed cymal y Tour De France eleni o Vitelle i La Planche des Belles Filles yn un caled, gyda'r llinell derfyn ar ben mynydd serth, ac fe welodd newid yn y crys melyn.

Dros y 180 km, fe wnaeth ambell seiclwr geisio torri'n glir o'r gweddill, ond gyda llai na 5km yn weddill, fe aeth yr Eidalwr Fabio Aru yn glir i ennill y cymal.

Roedd Team Sky wedi brwydro'n galed i gadw yn y ras, a Geraint Thomas oedd yn amlwg wrth lusgo arweinydd y tîm - y pencampwr presennol Chris Froome - yn ôl at y blaen.

Daniel Martin orffennodd y cymal yn ail gyda Froome yn drydydd, ac roedd hynny'n ddigon iddo gipio'r crys melyn oddi wrth Thomas.

Roedd y Cymro yn ddegfed yn y cymal, ac mae'n dal yn ail yn y ras gyfan, a hynny 12 eiliad y tu ôl i Froome.

Mae e hefyd ddwy eiliad o flaen Aru sydd wedi codi i'r trydydd safle yn dilyn ei fuddugoliaeth yn y cymal.