Trac rasio yn y Bae?

Un o'r 'pods' yn mynd trwy'i bethau Image copyright Ultra Global Cyf
Image caption Un o'r 'pods' yn mynd trwy'i bethau

Fydd 'na ddim trac rasio yng Nglyn Ebwy, ond arhoswch, beth yw hwn ym Mae Caerdydd?

Ar Facebook yn ystod yr wythnos, mae gwahanol bobl wedi bod yn trafod beth yw'r trac, siâp 8 yma sy'n llechu ger maes hofrenyddion Caerdydd.

Oes yna drac rasio ceir? A yw Scalextric wedi adeiladu fersiwn enfawr o'u gêm rasio?

Na. Trac profi yw hwn ar gyfer system gludo bersonol oedd yn ôl y sôn, mynd i gael ei osod er mwyn cysylltu canol Caerdydd â'r Bae.

Image copyright Alamy

Mi agorodd y safle yn 2001 wedi i gwmni Ultra Global ennill gwobr drafnidiaeth arloesol.

Mae'r trac yn cynnwys yr holl elfennau sydd angen i brofi gallu a diogelwch y system i weithredu yn y byd go iawn. Pethau fel llethrau, cyffyrdd, pontydd, darnau wedi'u 'bancio' a gorsaf.

Mae'r cwmni wedi bod yn arbrofi a gwella'r cynllun podiau'n gyson ac i'r rhai ohonoch chi sydd wedi bod ym maes awyr Heathrow yn ddiweddar, mi fyddwch chi wedi gweld podiau tebyg yn cludo teithwyr i'r terfynellau o westyau cyfagos.

Ond beth am eu gweld mewn defnydd ar strydoedd ein prifddinas?

Yn ôl y cwmni, mae'r trafodaethau yn parhau.

Image copyright Ultra Global Cyf