Dim newid yn nhîm y Llewod

gatland

Mae Warren Gatland, prif hyfforddwr y Llewod, wedi cyhoeddi mai'r un 15 a ddechreuodd yr ail brawf yn erbyn Seland Newydd fydd yn dechrau'r trydydd prawf ddydd Sadwrn yn ogystal.

Mae'r eilyddion yn union yr un fath hefyd, sy'n golygu mai dyma'r tro cyntaf ers 1993 i'r Llewod ddewis yr union un tîm am ddwy gêm brawf yn olynol.

Pedwar Cymro fydd felly'n dechrau'r gêm gyda Sam Warburton yn gapten. Y tri arall yw Liam Williams, Jonathan Davies ac Alun Wyn Jones, ac fe fydd Ken Owens a Rhys Webb ar y fainc.


Dyma'r tîm yn llawn:

Olwyr: 15. Liam Williams; 14. Anthony Watson; 13. Jonathan Davies; 12. Owen Farrell; 11. Elliot Daly; 10. Johnny Sexton; 9. Conor Murray.

Blaenwyr: 1. Mako Vunipola; 2. Jamie George; 3. Tadhg Furlong; 4. Maro Itoje; 5. Alun Wyn Jones; 6. Sam Warburton (capt); 7. Sean O'Brien; 8. Taulupe Faletau.

Eilyddion: 16. Ken Owens; 17. Jack McGrath; 18. Kyle Sinckler; 19. Courtney Lawes; 20. CJ Stander; 21. Rhys Webb; 22. Ben Te'o; 23. Jack Nowell.


Wrth gyhoeddi'r tîm dywedodd Warren Gatland: "Roedden ni'n teimlo y dylen ni wobrwyo'r chwaraewyr am ganlyniad yr ail brawf a'r dewrder a ddangoson nhw wrth ddod yn ôl o fod 18-9 ar ei hôl hi a gorffen yn gryf yn y 10-15 munud olaf.

"Mae rhai chwaraewyr yn siomedig o beidio cael eu dewis ac rwy'n deall hynny ... dyna fyddech chi'n ei ddisgwyl gan athletwyr cystadleuol.

"Ond ry'n ni wedi pwysleisio mai nid y 23 yma sy'n bwysig ond pawb yn y garfan - maen nhw wedi rhoi'r siom yna o'r neilltu ac yn cynorthwyo'r garfan ar y diwrnod i baratoi cystal ag y gallan nhw am y gêm brawf.

"Ry'n ni'n ymwybodol iawn o bwysigrwydd y gêm ac yn disgwyl ymateb gan y Crysau Duon.

"Ond roedd gweld pa mor gryf oedden ni yn y 10-15 munud olaf yn yr ail brawf - o ran cryfder a brwdfrydedd - yn gwneud i ni deimlo fod yna lefel arall yn y tîm.

"Mae hwn yn gyfle enfawr i'r chwaraewyr yma ddangos eu dawn a gweld gwaith caled pawb yn dwyn ffrwyth.

"Dyma'u cyfle i greu hanes i'r Llewod!"