Croesi'r bont

pont

Ar drothwy'r Eisteddfod Genedlaethol ar Ynys Môn mae un o feibion yr ynys, y bargyfreithiwr Gwion Lewis, wedi bod yn ein tywys ar daith o gwmpas y fro yn rhaglen Môn: Ynys Gwion Lewisar BBC Radio Cymru.

Yma, mae Gwion yn son am y daith hynny wrth Cymru Fyw ac yn rhoi cyfle i ni ddod i 'nabod yr ardal a rhai o'i chymeriadau.


Eleni, mae gen i fwy o reswm i adael Llundain, fy nghartref ers bron i 15 mlynedd, nag erioed o'r blaen.

Bron i fis yn ôl, ben bore, ro'n i'n eistedd wrth fy nesg gartref yn paratoi achos llys pan welais i gwmwl du enfawr o gwmpas bloc o fflatiau yr ydw i wedi bod yn edrych arno, yn y pellter, ers blynyddoedd lawer. Dysgais y bore hwnnw mai Grenfell Tower ydi enw'r adeilad, ac wrth i mi ysgrifennu'r pwt yma i BBC Cymru Fyw, mae cragen ddu'r adeilad i'w gweld yn glir drwy'r ffenestr, a'r anniddigrwydd cymdeithasol i'w deimlo ar strydoedd gogledd Kensington.

Digwyddodd y tân yn nhŵr Grenfell yn fuan wedi cyfres o ymosodiadau terfysgol brawychus na welwyd eu tebyg yma o'r blaen. Am wythnos neu ddwy, yng nghanol gwres llethol, roedd yna deimlad fod y ddinas ar drugaredd grymoedd y tu hwnt iddi ei hun ac nad oedd hi'n llwyddo i'w rheoli. Hyd heddiw, rydw i'n dal ar bigau'r drain mewn unrhyw le mawr cyhoeddus.

Yn ôl i Fôn

Yng nghanol y cyfnod cythryblus hwn, braf oedd medru ffoi yn ôl i Ynys Môn i weithio ar fy nghyfres ddiweddaraf ar gyfer BBC Radio Cymru. Mi dreuliais i 18 mlynedd cyntaf fy mywyd yn byw ar yr ynys, yn nhref Llangefni. Ond fel nifer fawr o'r rhai aeth i Ysgol Gyfun Llangefni yr un pryd â mi, symud i un o'r dinasoedd mawr dros y ffin wnes i "er lles fy ngyrfa". Drwy gydol fy ugeiniau a'r rhan fwyaf o'm tridegau, ro'n i'n wfftio'r awgrym fod rhyw gymhlethdod moesol yn y penderfyniad i adael Cymru.

Os oedd Cymry Cymraeg yn gofyn (ac mi oeddent, yn bur aml) "pam wyt ti'n byw yn Lloegr yn hytrach na Chymru?", fy ateb bob tro oedd nad oeddwn i wir yn ystyried Llundain fel rhan o Loegr, ond yn gweld y ddinas yn hytrach fel gwlad fechan ei hun - gwlad sy'n gymaint o lobsgows o ddiwylliannau gwahanol fel nad ydyw'n briodol ei disgrifio hi fel dinas "Seisnig".

Image caption Gwion ger yr arwydd enwog ar Bont Menai, neu Pont y Borth ar lafar gwlad

Erbyn hyn, rydw i'n cyfaddef mai ateb i leddfu cydwybod euog y Cymro oddi cartref oedd hwn. Bellach, mae gen i fab bach wyth-mis oed, ac mae'n gwbl amlwg, os ydw i'n dewis aros yn Llundain dros y blynyddoedd nesaf, y bydd ei fagwraeth yn wahanol iawn i'r un gefais i yn Llangefni.

Oes, mae yna loeren yn taflu rhaglenni Cyw i mewn i'r fflat bob bore, ond Saesneg yw iaith popeth o'n cwmpas ni. Pa ffordd bynnag mae rhywun yn edrych arni, mae'n rhaid i mi ddod i delerau â goblygiadau'r penderfyniad wnes i, 20 mlynedd yn ôl, i roi fy ngyrfa o flaen fy niwylliant: rhywbeth sy'n anghyfforddus iawn i mi ei gyfaddef.

Economi ar drai?

Mae dechrau teulu yng nghanol cyfnod mor ansefydlog yn Llundain yn golygu fod yr ysfa i dreulio mwy o amser ar Ynys Môn yn gryfach nag y bu ers talwm. Ond sut siâp sydd yna, erbyn hyn, ar yr ynys oedd yn gartref i mi drwy gydol fy mhlentyndod? Gadael yr ynys wnes i, ond beth am y bobl sydd wedi aros yno? Pa ddyfodol sydd yna iddyn nhw a'u teuluoedd, yn enwedig yn dilyn penderfyniad yr ynys i bleidleisio o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd y llynedd?

Amaethyddiaeth ydi asgwrn cefn yr economi leol ac mi fydd rhaglen gyntaf y gyfres yn pwyso a mesur sut effaith gaiff Brexit ar fywyd cefn gwlad Môn. Bydd ffermwyr yr ynys yn siarad yn ddi-flewyn-ar-dafod am yr argyfwng sy'n wynebu amaethyddiaeth a methiant llywodraeth, ar bob lefel, fel y maen nhw'n gweld pethau, i warchod eu buddiannau.

Yn hwyrach yn y gyfres, mi gawn ni olwg ehangach ar economi'r ynys y tu hwnt i'r byd amaeth a gofyn: ai dyfodol niwclear sydd yna eto i Fôn? Go brin fod yna daten boethach ar yr ynys na'r cynllun i adeiladu pwerdy newydd drws nesaf i safle hen orsaf yr Wylfa.

Image caption Mae dyfodol Yr Wylfa wedi rhwygo barn ar Ynys Môn ers blynyddoedd lawer

Mi glywn ni gan bobl ar ddwy ochr y ddadl: ar un llaw, y gantores, Aloma Jones, sydd yn credu fod pobl ifanc yr ynys angen gwaith; ar y llaw arall, fy chwaer fy hun, Manon, sy'n byw ar fferm sy'n agos iawn i lwybr arfaethedig y peilonau newydd a fyddai ynghlwm â'r Wylfa Newydd. A ydi Manon yn derbyn dadl Aloma "na fedr pawb fod yn erbyn pob dim" os ydi'r ynys am gael achubiaeth economiadd?

Ffraethineb

Yng nghanol y cyfan, bydd digon o gyfle hefyd i chwerthin a phrofi'r ffraethineb y mae pobl yr ynys yn enwog amdano. Rydw i wedi cyfweld nifer o gymeriadau "heriol" ar hyd y blynyddoedd, ond roedd yn rhaid i mi orwedd mewn stafell dywyll am oriau lawer wedi pnawn yng nghwmni "Brenhines Enwocaf Môn", Maggi Noggi, yr unig dyddynwraig y gwn i amdani sy'n godro yn ei sodlau. Cwyn fwyaf Maggi yw fod y gwhaddodiad iddi ymuno â Gorsedd y Beirdd eleni, yn ei hardal enedigol, wedi mynd ar goll yn y post. Teg dweud nad ydi pawb, yng nghefn gwlad Môn, wedi eu torri o'r un brethyn.

Y gobaith ar ddiwedd y gyfres yw bydd y rheini ohonom sy'n bwriadu heidio i Fôn fis Awst ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol yn teimlo ein bod ni'n 'nabod yr ynys a'i phobol yn eithaf da cyn cyrraedd. Yn sicr, rydw i'n teimlo rhyw gysylltiad o'r newydd â'r ynys yn dilyn y cyfweliadau a wnes i ar gyfer y rhaglenni. A fydda' i'n cydnabod fod cyfrioldeb moesol arna' i, bellach, i ddod yn ôl i Fôn i fagu teulu? Ymunwch â mi ar y daith.

Gwrandewch ar alw ar BBC iPlayer>> Môn: Ynys Gwion Lewis, BBC Radio Cymru

Image caption Bydd Gwion Lewis yn taflu golweni ar Ynys Môn yn ei gyfres ddiweddara' ar Radio Cymru