Arestio dyn wedi i feiciwr farw wedi gwrthdrawiad

car heddlu

Mae dyn 30 oed wedi cael ei arestio wedi i feiciwr gael ei ladd mewn gwrthdrawiad ar gyrion Casnewydd nos Fercher.

Dywedodd Heddlu Gwent bod Suliman Haroun, 28, wedi marw erbyn iddyn nhw gyrraedd man y gwrthdrawiad, a bod ei deulu'n derbyn cefnogaeth arbenigol.

Cafodd y gwasnaethau brys eu galw am 21:25 i'r digwyddiad ar ffordd yr A4810 rhwng Magwyr a Llanwern, ac mae gyrrwr y car Audi TT coch bellach wedi ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus.

Mae plismyn yn apelio am unrhyw dystion i gysylltu â nhw.