Abertawe yn arwyddo Roque Mesa o Las Palmas am £11m

Roque Mesa a Luis Suarez Image copyright Getty Images
Image caption Roque Mesa (chwith) yn cystadlu am y bêl gyda Luis Suarez

Mae Abertawe wedi cadarnhau eu bod wedi arwyddo'r chwaraewr canol cae Roque Mesa o Las Palmas am £11m.

Mae wedi arwyddo cytundeb pedair blynedd yn Stadiwm Liberty, a bydd yn ymuno a gweddill y garfan ddydd Llun.

Y Sbaenwr 28 oed yw'r trydydd chwaraewr drytaf yn hanes y clwb, y tu ôl i Borja Baston a Wilfried Bony.

Mesa yw'r trydydd chwaraewr i'r Elyrch arwyddo'r haf hwn, yn dilyn yr ymosodwr Tammy Abraham a'r golwr Erwin Mulder.