Cei Connah, Y Bala a Bangor allan o Gynghrair Europa

Image copyright Getty Images
Image caption Fe wnaeth Lyngby drechu Bangor o 1-0 yn y cymal cyntaf

HJK Helsinki 3-0 Cei Connah (3-1 ar gyfanswm goliau)

Aeth y tîm cartref ar y blaen trwy gic rydd gan Moshtagh Yaghoubi wedi 12 munud, i'w gwneud yn gyfartal ar gyfanswm goliau.

Dyblwyd mantais HJK ar ôl hanner awr wrth i Akseli Pelvas rwydo o 10 llath.

Aeth Cei Connah'n bellach ar ei hôl hi yn yr ail hanner wrth i Pelvas sgorio ei ail gôl i sicrhau'r fuddugoliaeth i'r clwb o'r Ffindir.

FC Vaduz 3-0 Y Bala (5-1 ar gyfanswm goliau)

Aeth Vaduz ar y blaen ar ôl 20 munud werth i Aldin Turkes rwydo heibio i'r golwr Ashley Morris.

Ychwanegodd Turkes ei ail o'r noson cyn i Marco Mathys sgorio trydedd i'r clwb o Liechtenstein i'w gwneud yn 5-1 ar gyfanswm goliau.

Bangor 0-3 Lyngby (0-4 ar gyfanswm goliau)

Roedd y clwb o Ddenmarc ar y blaen o fewn pum munud wrth i Kristoffer Larsen gymryd mantais o gamgymeriad amddiffynnol gan y tîm cartref.

Ychwanegwyd ail gan Jeppe Kjaer cyn i Larsen sgorio eto i'w gwneud yn 3-0 ar y noson.