Haf cofiadwy arall i Osian

Osian a'i wraig Image copyright Osian Roberts/Twitter

Yr adeg yma'r llynedd roedd Osian Roberts, is-hyfforddwr tîm pêl-droed Cymru, ar ben ei ddigon ar ôl i'r garfan gyrraedd rownd cyn-derfynol Ewro 2016 a'r ha' hwn mae'n dathlu eto.

Ddiwedd Mehefin fe briododd y gŵr o Fodffordd, Ynys Môn gyda Lynne ar ynys St Lucia ym Môr y Caribi.

Mae'r cwpl bellach yn ôl adre gan y bydd 'na anrhydedd arall yn dod i ran Osian ymhen llai na mis pan fydd yn derbyn y wisg las yn seremoni'r Orsedd yn Eisteddfod Ynys Môn.

Gobeithio bod Osian wedi cael cyfle i ymlacio tra ar ei fis mêl gan y bydd y cyfnod wedi'r 'steddfod yn brysur iawn. Mae Cymru yn wynebu Awstria yng Nghaerdydd ar ddydd Sadwrn 2 Medi yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2018. Bydd y garfan yn teithio i Moldofa ar gyfer eu gêm nesa' yn y grŵp ar 5 Medi. Byddai dwy fuddugoliaeth yn golygu y bydd hi'n bosib iawn y bydd gan Osian haf cofiadwy arall i edrych ymlaen ato y flwyddyn nesa'... Amdani Rwsia 2018!

Image caption Fydd Osian yn dathlu fel hyn eto'r haf nesa'?