Buwch wedi ei saethu gan fwa croes ar Ynys Môn

buwch Image copyright Heddlu Gogledd Cymru/Twitter
Image caption Mae'r heddlu wedi disgrifio'r ymosodiad fel un "brawychus"

Mae buwch wedi ei hanafu ar ôl cael ei saethu yn ei gwyneb gan fwa croes ar Ynys Môn.

Fe ddigwyddodd y saethu yn ardal Llanfairpwll ddydd Iau.

Dywedodd yr heddlu fod y fuwch yn "iawn" ac y byddai'r bicell gafodd ei hadfer yn cael ei brofi am dystiolaeth DNA, yn y gobaith o erlyn yr ymosodwr.

Mae'r Rhingyll Rob Taylor o dîm troseddau cefn gwlad Heddlu Gogledd Cymru wedi disgrifio'r drosedd fel un "brawychus", gan annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu gyda'r llu.

Image copyright Heddlu Gogledd Cymru/Twitter
Image copyright Heddlu Gogledd Cymru/Twitter