Tour: Thomas yn ail a diwedd dramatig

kittel Image copyright Getty Images
Image caption Yr Almaenwr Marcel Kittel (agosaf at y camera) enillodd y cymal

Mae Geraint Thomas yn parhau yn yr ail safle yn y Tour de France wedi'r seithfed cymal ddydd Gwener.

Ei gyd-seiclwr gyda Team Sky, Chris Froome, sy'n cadw'r crys melyn.

Roedd cymal 7 o Troyes i Nuits-Saint-Georges yn 213.5 km ac yn ôl y disgwyl ras i'r gwibwyr tua'r diwedd oedd hi.

Ar ôl teithio mor bell, milimetrau yn unig oedd yn gwahanu'r enillydd Marcel Kittel o dîm Quick-Step Floors ac Edvard Boasson Hagen o dîm Dimension Data oedd yn ail.

Roedd pob aelod o Team Sky yn ddigon hapus aros yn y peloton i sicrhau nad oedd newid yn safleoedd y ras gyfan, ond fe gafodd Cymro arall, Luke Rowe, y fraint o fod y cyntaf yn y tîm i orffen y cymal yn safle 39 gyda Geraint Thomas (45) a Froome (48) yn dynn ar ei sodlau gyda'r 124 seiclwr cyntaf i orffen i gyd yn cael yr un amser.

Mae Geraint Thomas felly yn parhau 12" y tu ôl i Froome gyda Fabio Aru ddwy eiliad y tu ôl i Thomas.