Morgannwg yn colli yn y T20 Blast

morgannwg

Mae Morgannwg wedi colli eu gêm agoriadol yn y T20 Blast eleni.

Sgoriodd Hampshire 167 am 5 yn eu 20 pelawd - Lewis McManus oedd y prif sgoriwr gyda 59.

Mewn ymateb ymdrechodd Graham Wagg yn galed i arwain Morgannwg at fuddugoliaeth - ond ar ôl colli David Lloyd a Colin Ingram yn rhad ar ddechrau'r batiad, roedd hi'n ormod o dasg.

Roedd Wagg allan am 50.

Cipiodd Shahid Afridi 4 wiced am 20 rhediad wrth i Forgannwg gyrraedd 145-9 ar ddiwedd y 20 pelawd.

Hampshire 167-5 (20 pelawd)

Morgannwg 145-9 (20 pelawd)