Geraint yn aros yn yr ail safle

Lilian Calmejane yn dathlu ar ôl ennill wythfed cymal y ras bnawn Sadwrn Image copyright Getty Images
Image caption Lilian Calmejane yn dathlu ar ôl ennill wythfed cymal y ras bnawn Sadwrn

Mae'r Cymro Geraint Thomas yn parhau i ffod y yr ail safle yn ras feicio'r Tour de France yn dilyn yr wythfed cymal ddydd sadwrn 8 Gorffennaf.

Y Ffrancwr Lilian Calmejane o dim Direct Energie oedd enillydd poblogaidd y cymal rhwng Dole a Station des Rousses.

Chris Froome, cyd-aelod Thomas yn nhîm Sky, sy'n parhau i wisgo'r crys melyn. Mae'r Cymro o Gaerdydd 12 eiliad ar ei ôl.

1Chris Froome TEAM SKY 33awr 19munud 10eiliad

2Geraint Thomas TEAM SKY + 00' 12''

3Fabio Aru ASTANA + 00' 14''

4Daniel Martin QUICK - STEP FLOORS + 00' 25''

5Richie Porte BMC + 00' 39''