Seiclwr mewn cyflwr difrifol wedi damwain

The A4139 near Manorbier Image copyright Google

Mae seiclwr a gafodd ddamwain yn ystod ras dreiathlon yn Sir Benfro ddydd Sadwrn yn parhau i fod mewn cyflwr difrifol ond sefydlog.

Roedd y ddynes yn cymryd rhan yn ras y Long Course Weekend lle roedd disgwyl i gystadleuwyr nofio 2.4 milltir ar y dydd Gwener, seiclo 112 milltir ar y dydd Sadwrn a rhedeg marathon ar y dydd Sul.

Mae'n debyg i feic y ddynes daro yn erbyn car ar gyrion Maenorbŷr ychydig cyn hanner dydd, ddydd Sadwrn.

Cafodd ei chludo i'r ysbyty mewn hofrennydd yn dilyn y ddamwain.

Mae ymholiadau Heddlu Dyfed Powys yn parhau.