Chwilio am dri wedi ffrae yn Llandyrnog

Llandyrnog Image copyright Google
Image caption Dywed plismyn bod nifer o bobl yn y pentref ddydd Sadwrn wrth i ŵyl gwrw gael ei chynnal yno

Mae plismyn yn awyddus i siarad â dau ddyn a menyw wedi ffrwgwd a oedd yn cynnwys plant yn Llandyrnog yn Sir Ddinbych.

Dywed Heddlu'r Gogledd bod y tri wedi cael eu gweld "mewn amgylchiadau amheus" tra'n gyrru o gwmpas Llandyrnog ddydd Sadwrn.

Roedd y tri yn gwisgo dillad du ac yn teithio mewn car Renault Clio glas a oedd â chrafiadau ar y boned.

Mae'r Arolygydd Steve Williams wedi dweud bod ymchwiliad yn cael ei gynnal i amgylchiadau'r digwyddiad.

Ychwanegodd: "Roedd yna nifer o bobl yn y pentref ddydd Sadwrn wrth i ŵyl gwrw gael ei chynnal yno ond ry'n yn awyddus i glywed gan unrhyw un a oedd yn dyst i ddigwyddiad a oedd yn cynnwys plant."

Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â'r heddlu ar 101.