Lluniau Gŵyl Nôl a Mla'n 2017

Ble well i dreulio penwythnos poeth o haf nac ar lan y môr? Dyma rai o uchafbwyntiau Gŵyl Nôl a Mla'n 2017 trwy lens y ffotograffydd Lleucu Meinir.

Image caption Mae plant y pentre wedi darganfod llecyn gwylio da!
Image caption Clocsffit ydy'r weithgaredd hon. Edrych yn waith caled i ni!
Image caption Dyddiau olaf o ryddid! Dau barti plu yn mwynhau ar y traeth
Image caption Boi prysur ydy'r Yws Gwynedd 'ma
Image caption Sgwn i fydd Richard Rees yn chwarae un o ganeuon Elin Fflur ar ei raglen fore Sul ar Radio Cymru?
Image caption Barod amdani. Mabli Tudur a'r Band
Image caption Mari Mathias yn swyno'r gynulleidfa nos Wener
Image caption Mellt yn drydanol ar y llwyfan
Image caption Pa hwyaden enillodd? Yr un felen!
Image caption Y bytholwyrdd Tecwyn Ifan yn mwynhau bod nôl yn y gorllewin
Image caption Trwbz yw'r rhain. Chewch chi ddim cefndir fel 'na yn Glastonbury!
Image caption Y dorf yn mwynhau Yr Eira... y band nid y stwff gwyn 'na!