Morgannwg yn drech na Sussex yn y T20

Colin Ingram Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Colin Ingram ar ei orau ddydd Sul yn erbyn Sussex

Roedd yna ddigon o gyffro ddydd Sul yn gêm griced y T20 rhwng Sussex a Morgannwg yn Arundel.

Sgoriodd Colin Ingram 101 rhediad heb fod allan oddi ar 47 pelen ac er i Luke Wright o Sussex hefyd sgorio'r cant Morgannwg a enillodd o 18 rhediad.

Roedd 'na 66 chwech i gyd yn y pum gêm criced a gafodd eu chwarae dydd Sul - roedd 19 o'r rheiny yn ystod gêm Sussex yn erbyn Morgannwg.