Achub merch 13 oed o hen gaer yn Sir Benfro

Hubberstone Image copyright Geograph/Deborah Tilley
Image caption Hen gaer Hubberstone yn Aberdaugleddau

Cafodd merch 13 oed ei hachub o hen gaer yn Sir Benfro ar ôl syrthio yno nos Sul.

Bu'r heddlu, y frigad dân, ambiwlans a gwylwyr y glannau yn gweithio gyda'i gilydd i gyrraedd y ferch yng Nghaer Hubberstone ger traeth Gelliswick yn Aberdaugleddau.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw am tua 19:00.

Cafodd y ferch ei chludo i Ysbyty Treforys yn Abertawe mewn hofrenydd.

Mae hi mewn cyflwr difrifol ond sefydlog.