Davies yn edrych nôl ar daith 'sbesial'
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Jonathan Davies yn edrych 'nôl ar daith 'sbesial'

10 Gorffennaf 2017 Diweddarwyd 14:02 BST

Mae Jonathan Davies yn dweud ei fod yn "falch iawn o fod yn rhan o rhywbeth sbesial iawn" yn dilyn taith y Llewod.

Cafodd Davies ei enwi'n chwaraewr y daith wrth i'r Llewod a Seland Newydd orffen y gyfres yn gyfartal wedi'r trydydd prawf yn Auckland.

Wedi'r ornest, bu'r canolwr - sy'n wreiddiol o Sir Gâr - yn siarad â gohebydd BBC Cymru, Gareth Charles.