Dynes yn ddieuog o achosi marwolaeth drwy yrru'n ddiofal

laura matthews-james Image copyright Wales News Service

Mae dynes o Sir Gaerfyrddin wedi ei chael yn ddieuog o achosi marwolaeth drwy yrru'n ddiofal.

Fe gollodd Laura Matthews-James ei babi, a bu farw gyrrwr arall, mewn gwrthdrawiad yn 2016.

Roedd yr erlyniad yn honni ei bod wedi colli rheolaeth o'i cherbyd cyn taro car Robert Hitchcock, 54.

Ond gwadodd Ms Matthews-James ei bod yn goryrru ar y ffordd i'r gwaith y bore hwnnw.

Image copyright PA

Clywodd Llys y Goron Abertawe bod Ms Matthews-James, 35, yn gyrru i'w gwaith yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin, ar 26 Chwefror 2016 pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad tua 08:45.

Dywedodd nad oedd hi'n cofio'r gwrthdrawiad, ond ychwanegodd na fyddai hi wedi cymryd risg am ei bod yn disgwyl.

Cafodd ei chludo i'r ysbyty yn sgil y digwyddiad, ond bu ei phlentyn farw yn y groth.

Fe glywodd y llys bod Mr Hitchcock wedi marw "mwy na thebyg yn syth".