Colli ysgol wledig arall

ganllwyd

Gyda Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cynllun uchelgeisiol i gynyddu addysg Gymraeg erbyn 2030, mae pennod ar fin dod i ben yn hanes un o ysgolion gwledig Cymru sydd wedi cynnal yr iaith a'i diwylliant ers cenedlaethau.

'Gwell dysg na golud'. Dyna'r geiriau sydd i'w gweld ar flaen adeilad Ysgol Y Ganllwyd, y pentre' bychan rhwng Dolgellau a Thrawsfynydd.

Cafodd yr ysgol ei hagor yn 1905, ond y mis yma bydd yr ysgol yn cau ei drysau am y tro olaf fel rhan o broses ad-drefnu ysgolion yng Ngwynedd. Cafodd Cymru Fyw air gyda rhai o'r cyn-ddisgyblion a oedd mewn seremoni arbennig i gofio a dathlu'r ysgol ar 8 Gorffennaf.


Image caption David yn hogyn ifanc yn Ysgol Y Ganllwyd, ac fel y mae heddiw

Roedd David Williams yn olygydd gwleidyddol gyda BBC Cymru, ac yn ddisgybl yn Ysgol Y Ganllwyd rhwng 1955 a 1960:

"Roedd fy nhad Robert Powell Williams yn brifathro yn Y Ganllwyd rhwng 1955 a 1960, ac roeddwn i'n ddisgybl yma yn y cyfnod yna rhwng bod yn bump a deg oed.

"Dwi'n cofio roedd hi'n gyfnod mor hapus, ac yn ysgol a chymuned gwbl Gymraeg pan o'n i yma. Dwi'n meddwl mai un teulu oedd ddim yn siarad Cymraeg, ac mi wnaethon nhw ddysgu yn gyflym.

"'Nes i adael Y Ganllwyd a mynd i fyw i Seland Newydd. Wrth gwrs doedd neb yn siarad Cymraeg yn fy ysgol newydd ac ro'n i ar goll am flwyddyn neu ddwy, roedd gen i hiraeth mawr. Roedd mynd o gymuned fach Y Ganllwyd i ysgol gyda channoedd o blant yn Seland Newydd yn dipyn o newid.

"Mae Llywodraeth Cymru'n newid polisi wrth ymwneud â'r ysgolion bach 'ma. Maen nhw wedi penderfynu mai nid nifer y plant yn unig sy'n bwysig pan mae nhw'n ystyried cau ysgol neu beidio. Maen nhw bellach yn ystyried yr effaith ar y genedl. Mae hi'n bechod na wnaethon nhw feddwl am hyn ynghynt - efallai byddai'r ysgol bach 'ma yn parhau.

"20 o blant sydd yn yr ysgol bellach, ond pan o'n i yma roedd 'na siop, swyddfa bost, garej, capel, a neuadd oedd yn cael ei defnyddio'n aml. Dwi'n pryderu beth wnaiff ddigwydd i'r pentref gyda'r ysgol yn cau, gan fod pob dim arall wedi mynd."


Image caption Mrs Gwen Jones, sy'n 98 oed

Aeth Gwen Jones i Ysgol Y Ganllwyd am y tro cyntaf yn bump oed, yn 1924:

"Roedd y teulu'n ffermio fyny'r ffordd ar fferm sydd bellach yn rhan o'r llwybrau beic mynydd, Coed y Brenin.

"Dwi'n cofio fy niwrnod cynta' yn iawn, a cherdded dros y caeau a lawr tuag at Y Ganllwyd. Un 'stafell oedd 'na yn yr ysgol, gyda'r plant iau a'r rhai hŷn wedi'u rhannu i ochrau gwahanol y 'stafell. Dwi'n cofio'r lle tân yn yr ysgol lle roedd y plant yn rhoi eu dillad ar y grât os oedden nhw'n wlyb.

"Mae'n g'wilydd o beth bod yr holl ysgolion yma'n cau. Mae plant angen addysg, ac hynny heb orfod teithio'n bell."


Image caption Mrs Eirlys Jones yn 6 oed, ac heddiw

Roedd Mrs Eirlys Jones, mam y bardd Nesta Wyn Jones, yn yr ysgol rhwng 1934 a 1941:

"O'n i'n byw ar fferm Penrhosuchaf - tŷ sydd ddim yn bodoli bellach ac wedi ei chwalu. 'Nes i ddechra' yn yr ysgol yr un diwrnod â fy mrawd, roedd o'n bump oed ac o'n i'n chwech.

"Dwi'n cofio cerdded lawr y mynydd at Ty'n y Groes, ac roedd ganddon ni gwmpeini o fanna 'mlaen i gerdded i'r Ganllwyd - doedden ni ddim yn cael cerdded ar y ffordd fawr ein hunan.

"Roedd Miss Thomas o Ddolgellau yn dod fyny ar ei beic bob dydd, a Mr Eifion Roberts oedd y prifathro. Mi roedd 'na gansen - ond ges i 'rioed hi!

"Dwi'n cofio yn ystod yr Ail Ryfel Byd, plaster ar y ffenestri i warchod rhag unrhyw fomiau, a dwi'n cofio ni'n cerdded i'r ysgol gyda gas masks. Dwi'n cofio fy mrawd bach Gareth yn anghofio ei fwgwd, a Miss Thomas yn gofyn 'A beth wnewch chi Gareth os daw'r Germans yma heddiw?'… roedd hynny yn ddigon i godi braw ar hogyn pump oed!

"'Nes i ymadael yma a mynd i Ysgol Rhyd y Gorlan yn Abergeirw am gyfnod byr, sydd hefyd wedi ei chau. 'Nes i ddim mynd i Ysgol Doctor Williams, yr ysgol uwchradd i ferched ar y pryd, am fod fy nhad wedi clywed bod gwisg ysgol yn costio £10 - lot o arian ar y pryd. Nes 'mlaen fe wnaeth pethau wella ma'n rhaid achos fe gafodd fy chwaer ieuengaf fynd yno.

"Gyda Rhyd y Gorlan yn Abergeirw yn cau fe a'th yr ieuengaf o'm mhlant i i'r Ganllwyd, ac yna y genhedlaeth wedyn. Mae naw o'n wyrion i wedi bod i'r ysgol yma, rhwng y 1970au a rhyw ddeng mlynadd yn ôl.

"Mae plant yn cael lot o sylw mewn ysgol wledig, a 'da chi'n 'nabod y plant, 'nabod eu teuluoedd a'u cefndir nhw, ac mae natur o'u cwmpas.

"Trwy anfon plant i'r ysgolion mwy canolog mae fel 'sa'r plant yn cael eu dieithrio o'u hardal eu hunain. Mae Dolgellau yn fwy Seisnigaidd na'r Ganllwyd, a dwi'n cofio sylwi ar hynny pan aeth Gerallt fy mab i Ysgol y Gader, Dolgellau. Felly mae'n bwysig i ddal 'mlaen i'r Cymreictod hwnnw pan fydd y plant yn symud i'r dre'."


Image caption Mae Nia Edwards bellach yn dysgu yn Ysgol Gynradd Dinas Mawddwy

Aeth Nia Edwards i Ysgol Y Ganllwyd yn gyntaf fel disgybl yn 1962, cyn dychwelyd yno i fod yn brifathrawes:

"Roedd y lle i'w weld yn fawr iawn yn blentyn, gyda llawr pren eitha tywyll. Roedden ni mewn dosbarth efo'r plant hŷn, ac roedd 'na partition rhyngddon ni ac ochr arall y dosbarth - ond oeddech chi'n dal i glywed bob dim o'r ochr arall.

"Bronwen Edwards oedd yr athrawes fabanod a dwi'n cofio ei bod hi'n gwisgo overalls nylon bron bob dydd.

"Daeth Eifion O Williams yn athro yno, ac roedd o'n hoff iawn o chwaraeon. Dwi'n cofio gêm griced 'Yr Ashes' rhwng ysgolion Y Ganllwyd a Llanfachreth, a chymryd rhan yn y mabolgampau ar Y Marian yn Nolgellau.

"Roedden ni'n dysgu lot am hanes Cymru, hanes lleol Meirionnydd, englynion a'r byd natur o'n cwmpas ni. Roedd diwylliant Cymreig ac ein diwylliant lleol yn hollbwysig yn yr ysgol.

"O'n i wedi penderfynu yn hogan fach mai dysgu o'n i am wneud, fel Miss Edwards. Ac ar ôl i mi briodi, tra'n byw yn Nolgellau ges i fy mhenodi i'r adran fabanod yn Y Ganllwyd, ag Iwan Morgan yn brifathro. Gydag Iwan, roedd 'na lot o ganu a lot o chwerthin.

"Pan ddes i nôl fel athrawes, 'nes i sylwi pa mor fach oedd yr adeilad i'w gymharu â fy nghof plentyn.

"Mae'r nifer o blant yng nghefn gwlad wedi gostwng, a bydd hi'n her i'r dyfodol. Ond dwi'n gweithio yn Ninas Mawddwy bellach, ac mae plant y ffermwyr lleol rwan yn cael plant eu hunain. Felly mae yna lot o fabis yn dod i'r ysgol fach - un sydd flwyddyn yma, ond y flwyddyn nesaf bydd wyth, felly mae'r niferoedd am godi eto.

"Mae'n anffodus bod yr ysgolion gwledig yn cau, ond mae'r bobl ifanc wedi gadael yr ardaloedd. Bydd hi'n her cael cysondeb drwy'r dalgylch, ond mae'n rhaid edrych i'r dyfodol a gwneud yn siŵr bod pawb yn cael yr un cyfle."