Beiciwr wedi'i ladd mewn gwrthdrawiad ger Betws-y-Coed

heddlu

Mae beiciwr modur wedi ei ladd yn dilyn gwrthdrawiad difrifol ar ffordd yr A5 ger Betws-y-Coed ddydd Sul.

Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng beic modur, cerbyd amaethyddol Mitsubishi gyda threlar, a cherbyd Citroen C-Crosser, ychydig cyn 13:00 ar y ffordd sy'n arwain o Fetws-y-Coed tuag at Fethesda yng Ngwynedd.

Bu farw'r beiciwr modur, oedd yn 27 oed ac o Lannau Mersi, yn dilyn y gwrthdrawiad, ac mae'r heddlu'n dweud fod ei deulu yn ymwybodol a bod y crwner wedi'i hysbysu.

Dywedodd yr Arolygydd Alun Davies o Uned Plismona'r Ffyrdd: "Rydym yn apelio ar unrhyw un a oedd yn teithio ar y ffordd ar y pryd ac efallai wedi bod yn dyst i'r gwrthdrawiad, i gysylltu â ni ar frys.

"Yn benodol, rydym yn awyddus i siarad â gyrrwr car a oedd yn dilyn dau fws mini oedd ar y ffordd yr un pryd."

Mae'r heddlu hefyd yn ymchwilio i ail wrthdrawiad ar yr A5 ddydd Sul, pan gafodd gyrrwr beic modur ei ladd.