Heddlu'n rhoi gorau i ymchwiliad digwyddiad Llandyrnog

Llandyrnog Image copyright Google

Mae'r heddlu wedi cadarnhau nad ydyn nhw'n trin digwyddiad yn ymwneud â grŵp o blant yn Sir Ddinbych ddydd Sadwrn fel ymgais i gipio.

Roedd Heddlu Gogledd Cymru wedi dweud yn gynharach eu bod yn ymchwilio i'r digwyddiad yn Llandyrnog.

Dywedodd swyddogion nad dyna oedd yr achos bellach ar ôl cadarnhau manylion y digwyddiad.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Chris Bell: "Hoffwn ddiolch i'r cyhoedd am eu cymorth yn ystod yr ymchwiliad."

Straeon perthnasol