Codi uchafswm ffioedd dysgu myfyrwyr yng Nghymru

myfyrwyr

Fe fydd uchafswm ffioedd dysgu ym mhrifysgolion Cymru yn codi i £9,295 o hydref 2018.

Fe ddaw'r cyhoeddiad ddydd Mawrth y bydd uchafswm y ffioedd yn cael eu cysylltu â lefel chwyddiant ar gyfer y tair blynedd sy'n dilyn.

Mae uchafswm ffioedd mewn prifysgolion yn Lloegr eisoes wedi codi i £9,250, ac mae'n yn debygol o fod dros £ 9,500 erbyn hydref 2018.

Dywedodd ysgrifennydd addysg Llywodraeth Cymru, Kirsty Williams AC, fod y cynnydd yn sgil effaith uniongyrchol y polisi yn Lloegr.

Ond dywedodd Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru eu bod yn "flin" gyda'r penderfyniad i godi'r uchafswm o £9,000.

Sgil-effaith Lloegr

Dywedodd Kirsty Williams fod addysg uwch yng Nghymru yn gweithredu mewn cyd-destun ar lefel y DU gyfan ac ar lefel ryngwladol.

"Rydym yn arwain y ffordd gyda'n newid i gynnal costau byw," meddai Ms Williams.

"Ond mae gan y polisi yn Lloegr sgîl-effaith uniongyrchol. Mae Cymru angen sector addysg uwch sefydlog a chynaliadwy sy'n cyflawni ar gyfer ein cymunedau a'r economi.

"Mae'n rhaid i'n prifysgolion allu cystadlu'n ddomestig ac yn rhyngwladol, gan fod swyddi, ffyniant a lles y genedl yn dibynnu arno.

"Gallaf gadarnhau y byddant [y ffioedd] yn parhau i gael eu talu drwy system benthyciad a gefnogir yn gyhoeddus a dim ond angen ei ad-dalu ar ôl graddio, ac yn ddibynnol ar lefelau incwm." ychwanegodd Ms Williams.

Mae llywydd UMC Cymru, Ellen Jones, wedi beirniadu'r penderfyniad i godi'r uchafswm.

"Waeth gen i beth mae Llywodraeth Cymru yn ei ddweud, mae'r cyhoeddiad heddiw yn ei gwneud yn anoddach i genhedlaeth o fyfyrwyr gael mynediad i addysg uwch.

"Gadewch i mi fod yn glir iawn, nid ydym yn cefnogi unrhyw gynnydd mewn ffioedd.

"Rydym yn deall bod cyllidebau o dan bwysau o ganlyniad i doriadau i wariant cyhoeddus gan Lywodraeth y DU.

"Ond mae ble mae'r fwyell yn disgyn yn benderfyniad i Lywodraeth Cymru, ac allai ddim derbyn y ffaith bod myfyrwyr yn cael eu defnyddio i ysgwyddo'r baich hwn penodol.

"Rwyf am i Lywodraeth Cymru i amddiffyn y gyllideb addysg gyfan yn union fel maent wedi gwneud gyda'r gyllideb iechyd." ychwanegodd Ms Jones.

Gweithredu system newydd

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cadarnhau y bydd yn gweithredu'r system newydd o gymorth ariannol i fyfyrwyr.

Yn dilyn Adolygiad Diamond y llynedd, bydd yr holl fyfyrwyr o oedran 18/19 yn cael £1,000 y flwyddyn cyn grant sy'n seiliedig ar brawf modd, i helpu gyda chostau byw.

Mae'r llywodraeth yn amcangyfrif y bydd un rhan o dair o fyfyrwyr llawn-amser yn derbyn y grant uchaf o £8,100 i fyfyriwr sy'n byw oddi cartref.

Bydd myfyrwyr sydd yn dod o aelwyd sydd ag incwm o £25,000 yn derbyn grant o tua £7,000 y flwyddyn.

Plaid Cymru'n 'gresynu'

Dywedodd Ysgrifennydd Cabinet cysgodol Plaid Cymru dros Addysg Llyr Gruffydd: "Mae Plaid Cymru yn gresynu fod Llywodraeth Cymru yn codi ffioedd dysgu i fyfyrwyr.

"Ddeufis yn unig yn ôl, dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg y buasai'n gwrthod unrhyw godiad mewn ffioedd dysgu, a fis diwethaf, addawodd y blaid Lafur ddileu ffioedd dysgu yn gyfan gwbl. Ond dyma'r llywodraeth nawr yn cynyddu ffioedd dysgu.

"Mae'n siom o'r mwyaf fod y llywodraeth yn trymhau baich dyled myfyrwyr. Mae myfyrwyr ar y cyfan yn talu lefelau uwch o log nag y mae pobl yn dalu ar eu morgeisi, felly dyw hi ddim yn syndod o gwbl nad yw oddeutu 75% o fyfyrwyr byth yn ad-dalu eu dyledion.

"Yn hytrach na chodi ffioedd dysgu, mae Plaid Cymru eisiau gwneud addysg yn fwy fforddiadwy a gwneud i ffwrdd â'r rhwystrau ariannol sy'n atal llawer o bobl ifanc rhag mynd i'r brifysgol."