Cymraeg: Miliwn yn bosib?

Dathlu'r Gymraeg yn Tafwyl ddechrau Gorffennaf
Image caption Dathlu'r Gymraeg yn Tafwyl ddechrau Gorffennaf yng Nghaerdydd

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud sut maen nhw'n bwriadu cael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Aeth Cymru Fyw i edrych ar rai o'r cwestiynau sy'n cael eu codi yn sgil lansio'r 'strategaeth' newydd:


Beth ydy'r targed?

Ar faes Eisteddfod Genedlaethol y Fenni y llynedd, fe gyhoeddodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, a Gweinidog y Gymraeg, Alun Davies, ymgyrch i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i filiwn erbyn 2050.

Y bwriad, medden nhw, oedd i greu Cymru sy'n ymateb i'r galw cynyddol am addysg cyfrwng Cymraeg, i gynyddu nifer y bobl sy'n dysgu'r iaith ac yn gallu ei defnyddio gyda'u teuluoedd, yn eu cymunedau ac yn y gweithle.

Pam fod angen yr ymgyrch?

Roedd yna alw mawr ar y llywodraeth i ymateb yn chwyldroadol yn dilyn canlyniadau siomedig Cyfrifiad 2011.

Yn 2001 roedd 20.5% yn nodi eu bod yn gallu siarad Cymraeg ac yn 2011 roedd y ffigwr gyfatebol yn 19%.

Er i boblogaeth Cymru dyfu yn y cyfamser, roedd nifer y siaradwyr Cymraeg wedi gostwng o 582,000 yn 2001 i 562,000 yn 2011 o boblogaeth o 2,955,841 oedd dros dair oed.

Sut maen nhw am fynd ati?

Mae 22% o blant saith oed yn cael addysg cyfrwng Cymraeg erbyn hyn. Bwriad gweinidogion ydy cynyddu hynny i 30% erbyn 2031 ac yna i 40% erbyn 2050.

Mae'r llywodraeth hefyd yn bwriadu gweld cynnydd mawr yn nifer yr athrawon sy'n gallu gweithio yn y Gymraeg yn yr un cyfnod.

Fel rhan o'r cynlluniau, bydd disgyblion yn ysgolion cyfrwng Saesneg yn treulio mwy o amser yn dysgu Cymraeg gyda'r nod o gynyddu canran y boblogaeth sy'n ei siarad bob dydd o 10% i 20% erbyn 2050.


Addysg cyfrwng Gymraeg: Straeon perthnasol i chi


Targed uchelgeisiol neu 'stỳnt arwynebol'?

Dywedodd Meirion Prys Jones, cyn-bennaeth Bwrdd yr Iaith Gymraeg, wrth ymateb i'r strategaeth ar raglen Taro'r Post ddydd Mawrth, 11 Gorffennaf:

"Mae'r syniad o gynnwys pawb yng Nghymru, y nod o greu Cymru ddwyieithog, a rhoi cyfle i bawb gyfrannu at hynny - mae hynny yn ardderchog.

"Ond dwi'n credu pan ry'ch chi'n edrych ar y manylder... mae 'na rhyw deimlad nad yw'r peth yn clymu at ei gilydd. Mae 'na dargedau uchelgeisiol tu hwnt yma ac o fod wedi gweithio ar hyd y gwledydd yn Ewrop ac yn ehangach, dwi ddim yn meddwl mod i wedi gweld un mor uchelgeisiol â hwn."

Mae'r ymgyrch wedi cael ei chroesawu gan y mwyafrif o'r gwrthbleidiau a mudiadau iaith, er bod llawer yn amau nad ydy'r ffigwr o un miliwn yn realistig.

Image caption Chris Coleman, rheolwr Cymru, a chefnogwr strategaeth iaith ddiweddara'r llywodraeth

Dywedodd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu'r Cynulliad ym mis Mai fod 'na "ddifyg eglurder" i ymgyrch y llywodraeth, tra bod AC Plaid Cymru Arfon, Sian Gwenllian, wedi galw'r ymgyrch yn "stỳnt arwynebol" ar ddiwrnod y lansiad.

Dywedodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg fod y strategaeth iaith newydd "ddim yn ddigonol" am na fyddai'r twf mewn addysg cyfrwng Cymraeg a gynlluniwyd yn y ddogfen yn arwain at tua 400,000 yn fwy o siaradwyr, ond yn hytrach at gynnydd o 110,000 yn unig dros y 33 mlynedd nesaf.

Yn ôl yr arbenigwr iaith, Cefin Campbell, mae'r strategaeth yn cyflwyno "nifer o heriau" er "bod 'na fodd cyflawni'r nod ond mae angen newidiadau radical iawn o safbwynt darparu addysg". Ychwanegodd bod angen sicrhau bod pob awdurdod lleol yn dilyn yr uchelgais: "Os nad ydyn nhw'n prynu mewn i'r strategaeth, yna mae'n amen - fyddwn ni ddim yn gallu cyflawni'r nod."

Ond mae gan ymgyrch y llywodraeth gefnogaeth un Cymro amlwg iawn. Roedd rheolwr tîm pêl-droed Cymru, Chris Coleman, yn rhan o'r digwyddiad swyddogol ddydd Mawrth ac fe ddywedodd wrth Golwg360 [dolen allanol] am ei gariad at yr iaith.

Beth sy'n digwydd nesa'?

Bydd yna bapur gwyn yn cael ei gyhoeddi gan Alun Davies yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Môn fis nesa' fydd yn rhoi syniad cliriach i ni o sut y bydd Llywodraeth Cymru yn mynd ati i geisio cyrraedd y nod uchelgeisiol.

Straeon perthnasol