HNK Rijeka 2-0 Y Seintiau Newydd

TNS Image copyright Getty Images
Image caption Fe wnaeth Y Seintiau drechu Europa FC o Gibraltar i gyrraedd y rownd yma

Mae llygedyn o obaith i'r Seintiau Newydd gyrraedd trydedd rownd ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr er iddyn nhw gael eu trechu o 2-0 yn Rijeka nos Fawrth.

Aeth pencampwyr Croatia ar y blaen ar ôl dim ond pum munud wrth i Josip Mišić sgorio gyda chic rydd o ymyl y cwrt cosbi.

Ond fe wnaeth y Cymry wella wrth i'r hanner fynd yn ei flaen, a dim ond un gôl oedd ynddi ar yr egwyl.

Fe wnaeth Rijeka sicrhau'r fuddugoliaeth gydag 20 munud yn weddill, wrth i'r eilydd Florentin Matei rwydo o groesiad Stefan Ristovski.

Bydd ail gymal y gêm yn ail rownd ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr yn cael ei chynnal yn Neuadd y Parc ymhen wythnos.