Burnley yn arwyddo Jack Cork o Abertawe am £10m

Jack Cork Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Roedd Jack Cork yn is-gapten ar Abertawe tymor diwethaf

Mae chwaraewr canol cae Abertawe, Jack Cork wedi gadael yr Elyrch ac wedi ymuno gyda Burnley am ffi allai godi i £10m.

Roedd Cork, 28 oed yn is-gapten Abertawe llynedd wrth i'r tîm lwyddo i aros yn Uwch Gynghrair Lloegr.

Dim ond blwyddyn oedd gan Cork ar ôl ar ei gytundeb yn Stadiwm Liberty, ar ôl iddo arwyddo i'r clwb yn 2015 o Southampton. Fe chwaraeodd 33 o weithiau'r tymor diwethaf.

Mae Abertawe wedi arwyddo Roque Mesa o Las Palmas, a'r awgrym oedd y byddai wedi cael llai o gyfle i chwarae'r tymor nesaf o ganlyniad.