Mesur y miliwn

Hywel Jones
Image caption Yr ystadegydd, Hywel M Jones

Mae'r bwriad o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn un i'w ganmol. Ond sut mae mynd ati i fesur y nifer o siaradwyr? Pa rôl sydd gan y cyrsiau dysgu i oedolion i chwarae yn yr ymgyrch? Ac ydy'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol newydd yn "llwyddiant" fel mae adroddiad diweddar wedi'i awgrymu?

Yr ystadegydd Hywel M Jones sy'n edrych ar y manylion i Cymru Fyw:


'Difyr, ond digalon'

Mae'r strategaeth newydd yn sôn am bwysigrwydd y sector Cymraeg i Oedolion.

Mae'n nodi, yn ôl data blwyddyn academaidd 2015/16, bod 16,375 yn dysgu Cymraeg fel oedolion drwy lwybrau ffurfiol Cymraeg i Oedolion.

Ond mae'n awgrymu y bydd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn mynd i'r afael â'r angen i gyflwyno darlun mwy eglur o'r nifer sy'n dysgu Cymraeg ac yn hyderus i'w defnyddio.

Ymhellach ymlaen dysgwn fod cyrraedd y miliwn o siaradwyr wedi ei seilio ar "rhagdybiaeth o 1,000 [o oedolion sy'n dod yn siaradwyr Cymraeg] yn ychwanegol bob blwyddyn ar ôl 2011" [tan 2021].

Yn dilyn Cyfrifiad 2021 mae'r strategaeth yn rhagdybio "y bydd 2,000 o siaradwyr Cymraeg ychwanegol bob blwyddyn drwy'r sector Cymraeg i Oedolion."

Sut felly y mae disgwyl i'r sector Cymraeg i Oedolion sicrhau 1,000 yn rhagor o siaradwyr Cymraeg bob blwyddyn tan 2021 a 2,000 yn rhagor bob blwyddyn ar ôl hynny?

Gan mai ychydig dros 16,000 oedd wedi cofrestru ar gyrsiau yn 2015/16, mae'r ffigyrau hynny'n golygu cynnydd o ryw 6% o'r lefelau presennol, a 12% erbyn 2021 - os derbynnir bod cofrestru ar gwrs yn ddigon ynddo ei hun i droi rhywun yn siaradwr.

Yn anffodus, mae'r ystadegau am y niferoedd sy'n sefyll arholiadau Cymraeg i Oedolion yn amlygu'n gliriach byth maint y dasg.

Image copyright S4C
Image caption Mae'r gyfres deledu Cariad@Iaith wedi ysgogi nifer o oedolion i ddysgu Cymraeg

Go brin ei bod hi'n bosib ystyried y rhai sy'n sefyll arholiad ar lefel Mynediad yn siaradwr Cymraeg, yn yr ystyr o rywun a all wneud defnydd gweithredol iawn o'r iaith.

Ar y llaw arall, hwyach y byddai dysgwr o'r fath yn fodlon ystyried ei bod/fod yn gallu siarad Cymraeg wrth ymateb i gwestiwn y Cyfrifiad.

Mae'r data sy' ar gael ar hyn o bryd yn awgrymu mai ar i lawr (fel y mae'r cyllid) y mae'r niferoedd sy'n dysgu Cymraeg.

Mae lle i amau hefyd mai lleihau y mae cyrsiau dwys, fel yr hen Wlpan. Yn sicr, mae lle i gredu nad oes cymaint o ymwybyddiaeth am gyrsiau dwys.

Difyr, ond braidd yn ddigalon yw gweld fel y mae'r nifer o chwiliadau drwy Google am 'Wlpan' wedi crebachu ers Eisteddod Genedlaethol Casnewydd 2004, a bod llai o chwilio am "learn Welsh":

Image copyright Google

A fydd data?

Dydy maes Cymraeg i Oedolion ddim yn data-free zone ond mae'n ymylu ar hynny. Mae sawl adroddiad wedi sylwi ar y diffygion.

Mae Cynllun Strategol y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ei hun yn dweud nad ydy'r dasg o ddod o hyd i wybodaeth ystyrlon a dibynadwy yn dasg hawdd oherwydd bod Llywodraeth Cymru wedi defnyddio sustemau gwahanol i gasglu data dros y blynyddoedd. Mae'n sôn hefyd nad ydy hi'n bosib defnyddio'r data i fesur llwyddiant dysgwyr wrth iddyn nhw wella eu Cymraeg.

Er hynny mae Estyn, y corff arolygu addysg, wedi nodi bod yna welliannau wedi bod o ran casglu data.

Amser a ddengys.

Mae perygl mawr y bydd 'na dorri nôl ar y cyfresi data tila sy' ar gael ar hyn o bryd. Rhaid derbyn nad ydy hi'n bosib cyfiawnhau gwariant cyhoeddus heb fedru mesur ei effaith.

Bydd yn rhaid i'r Ganolfan a'r sector yn gyffredinol dderbyn bod yn rhaid asesu pa mor llwyddiannus y mae'r dysgwyr yn dysgu Cymraeg mewn rhyw ffordd mesuradwy, yn ogystal â chofnodi'r niferoedd syml o faint sy'n cofrestru ar gyrsiau.

Heb ddata, ni fydd modd asesu llwyddiant y Ganolfan, y sector na strategaeth y llywodraeth.