Marwolaeth Bangor: Dyn yn y llys ar gyhuddiad o lofruddio

Henry Ayabowei Image copyright Heddlu Gogledd Cymru
Image caption Roedd Henry Ayabowei yn dad i ddau o blant

Mae dyn o Fangor wedi ymddangos yn y llys wedi'i gyhuddo o lofruddio dyn arall y tu allan i glwb nos yn y ddinas.

Bu farw Esinkumo Ayabowei - oedd yn cael ei adnabod fel Henry - yn dilyn digwyddiad y tu allan i glwb nos Peep ar 1 Ebrill.

Fe wnaeth Kieron Terence Roberts ymddangos yn Llys y Goron Caernarfon trwy gyswllt fideo o ddalfa Altcourse yn Lerpwl.

Cafodd Mr Ayabowei, 27 oed o Langefni, ei drosglwyddo i uned drawma ysbyty yn Stoke yn dilyn y digwyddiad, ble bu farw'n ddiweddarach.

Fe gafodd Mr Roberts ei gadw yn y ddalfa i ymddangos yn y llys ar 18 Awst, ble mae disgwyl iddo gyflwyno ple.