Monkton
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Yr heddlu'n delio â digwyddiad Cil-maen

12 Gorffennaf 2017 Diweddarwyd 12:45 BST

Cafodd dros 100 o bobl eu hel ymaith gan yr heddlu ar ôl achosi "helynt sylweddol" mewn pentref yn Sir Benfro nos Fawrth.

Dywedodd Heddlu Dyfed Powys eu bod wedi eu galw i'r digwyddiad yng Nghwrt Gwilliam yng Nghil-maen toc wedi 21:30.

Yn ôl yr heddlu roedd pobl wedi casglu yn yr ardal ar ôl i sylwadau gael eu rhoi ar wefannau cymdeithasol.

Fideo gan y Pembrokeshire Herald.