Owens: Camp y Llewod yn rhoi 'hyder'
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Owens: Camp y Llewod yn rhoi 'hyder' i Gymru cyn yr hydref

12 Gorffennaf 2017 Diweddarwyd 18:32 BST

Mae camp y Llewod yn Seland Newydd yn rhoi hyder i dîm Cymru cyn yr hydref, yn ôl Ken Owens.

Wrth gyrraedd 'nôl ym Mhrydain wedi taith y Llewod, dywedodd y bachwr bod "ychydig o siom hefyd" bod y gyfres wedi gorffen yn gyfartal.

Ond dywedodd y byddai'n hwb i'r tîm cenedlaethol bod chwaraewyr o'r garfan wedi trechu'r Crysau Duon.

Mae Seland Newydd yn dod i Gaerdydd i chwarae Cymru ar 25 Tachwedd.