Carwyn Jones: Cyfarfod Brexit yn 'gyfle pwysig'

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Dywedodd Carwyn Jones wrth raglen Post Cyntaf mai "nid dim ond llais y DU sy'n bwysig"

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones yn dweud ei fod yn edrych ymlaen at "drafodaeth aeddfed, synhwyrol" pan fydd yn cwrdd â phrif drafodwr Ewrop ar Brexit ddydd Iau.

Bydd Mr Jones yn cwrdd â Michel Barnier ym Mrwsel, ac yn cyflwyno Papur Gwyn Llywodraeth Cymru - Diogelu Dyfodol Cymru - iddo.

Mae disgwyl iddo'i gwneud hi'n glir ei fod yn gwrthwynebu safbwynt Theresa May, sy'n dweud y byddai gadael yr UE heb gytundeb masnach yn well na gadael â chytundeb gwael.

Daw'r ymweliad wrth i Lywodraeth y DU gyhoeddi deddfwriaeth fydd yn rhoi rheoliadau'r UE ar y llyfrau statud.

'Mwy o gefnogaeth

Bydd y Mesur Diddymu - neu'r Mesur (Gadael) Yr Undeb Ewropeaidd - yn diddymu Deddf Cymunedau Ewropeaidd 1972, wnaeth ddod â'r DU i mewn i'r UE, ac sydd yn nodi goruchafiaeth cyfraith Ewropeaidd dros ddeddfau Prydeinig.

Dywedodd Mr Jones y bydd yn cyhoeddi ei ddeddfwriaeth ei hun os yw'n teimlo fod Mesur Diddymu Llywodraeth y DU yn bygwth grymoedd y Cynulliad.

Mae Llywodraeth Cymru wedi galw am gael parhau i fod yn rhan o farchnad sengl Ewrop.

Cyn cyfarfod â Mr Barnier, dywedodd Mr Jones: "Mae'n Papur Gwyn yn amlinellu ein safbwyntiau ar nifer o'r prif faterion, sy'n wahanol i safbwyntiau a fynegwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig hyd yma, ond sydd o bosib yn ennyn mwy o gefnogaeth ar lawr gwlad.

Image copyright AFP
Image caption Michel Barnier yw prif drafodwr Ewrop ar ymadawiad y DU o'r UE

"Dyma gyfle pwysig iawn i mi egluro hyn i Mr Barnier."

Does gan Mr Jones - fel Jeremy Corbyn a Nicola Sturgeon, fydd hefyd yn cyfarfod â Mr Barnier ddydd Iau - ddim rôl ffurfiol yn y trafodaethau rhwng y DU a'r UE.

Mewn datganiad, dywedodd Llywodraeth Cymru fod y papur "yn cynnig man cychwyn ymarferol ar gyfer trafodaethau, gan gydbwyso pryderon ynghylch mewnfudo gyda realiti economaidd sy'n golygu bod cymryd rhan yn y farchnad sengl yn hanfodol ar gyfer ffyniant y DU yn y dyfodol".

"Mae'r cyfarfod hefyd yn gyfle i gael gwell dealltwriaeth o safbwynt negodi'r UE ac i bwysleisio bod Cymru am gadw cysylltiad agos gyda'n cymdogion Ewropeaidd ar ôl i'r DU ymadael â'r UE."

'Argyfwng cyfansoddiadol'

Dywedodd Mr Jones fod cynnal perthynas glos gyda gwledydd yr UE yn bwysig, a bod angen i San Steffan wrando ar y "pedair cenedl" yn hytrach na mynd ar ei liwt ei hun yn y trafodaethau.

"Mae'n rhaid i Whitehall sylweddol na allwn nhw ddweud 'fe wnawn ni wneud beth 'dyn ni eisiau, ond bydd yn rhaid i chi wneud beth 'dyn ni'n ddweud wrthoch chi'. Mae'r dyddiau hynny ar ben," meddai wrth Good Morning Wales.

Ychwanegodd: "Dydyn nhw [llywodraeth y DU] ddim yn siarad yn iawn gyda ni ar hyn o bryd felly mae'n hanfodol ein bod ni'n cyflwyno'n hachos ar ran Cymru."

Yn gynharach yr wythnos hon, fe rybuddiodd Mr Jones aelodau'r Cynulliad y gallai ddatblygu'n "argyfwng cyfansoddiadol" petai gweinidogion y DU yn diystyru deddfwriaeth sy'n cael ei chymeradwyo ym Mae Caerdydd.

Ond mae AS Ceidwadol Mynwy, David Davies wedi dweud y gallai trip y prif weinidog i Frwsel fod yn "niweidiol tu hwnt", a'i fod yn "closio at yr UE er mwyn tanseilio'n strategaeth negodi".

Image caption Yn ôl David Davies dylai Carwyn Jones codi ei bryderon ynglŷn â Brexit gyda llywodraeth y DU, nid yr UE

"Dangos ei hun yw hyn - ond mae'n gêm beryglus i'w chwarae," meddai Mr Davies.

"Beth mae'r wlad ei angen yw clywed ei harweinwyr gwleidyddol yn cymryd agwedd bositif ac adeiladol tuag at Brexit.

"Mae angen iddo wneud y dadleuon yma i lywodraeth y DU, nid Michael Barnier. Mae hyn yn edrych fel tanseilio bwriadol."

'Cryfhau gafael Llundain'

Un o bynciau llosg Brexit yw a ddylai grymoedd mewn meysydd fel amaethyddiaeth, sydd ym Mrwsel ar hyn o bryd, gael eu trosglwyddo'n uniongyrchol i'r llywodraethau datganoledig, neu ddychwelyd i San Steffan yn gyntaf.

Mae Plaid Cymru wedi cyhuddo llywodraeth y DU o fygwth y wlad gydag "argyfwng cyfansoddiadol" wrth geisio "cryfhau gafael Llundain ar Gymru" gyda'r Mesur Diddymu.

"Rydw i'n gandryll fod Llywodraeth Prydain yn gallu bod mor ddigywilydd wrth dresmasu ar y genedl Gymreig, a bod ein Llywodraeth Lafur yng Nghymru wedi bod mor ddi-glem yn eu gwrthwynebu," meddai Liz Saville Roberts AS.

"Mae'r prif weinidog wedi methu yn ei rwymedigaethau ac wedi caniatáu i'r Ceidwadwyr rwygo'r rheolau ar ddatganoli - mae wedi esgeuluso'i ddyletswydd fel prif weinidog y wlad."

Ychwanegodd: "Bydd [y mesur] yn sicrhau unwaith eto fod modd i San Steffan ddeddfu mewn materion Cymreig sydd wedi eu datganoli i Lywodraeth Cymru."

Straeon perthnasol