Llais Cymru yn nhrafodaethau Brexit
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Carwyn Jones 'Nid dim ond llais y DU sy'n bwysig'

13 Gorffennaf 2017 Diweddarwyd 08:11 BST

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones yn dweud ei fod yn edrych ymlaen at "drafodaeth aeddfed, synhwyrol" pan fydd yn cwrdd â phrif drafodwr Ewrop ar Brexit ddydd Iau.

Bydd Mr Jones yn cwrdd â Michel Barnier ym Mrwsel, ac yn cyflwyno Papur Gwyn Llywodraeth Cymru - Diogelu Dyfodol Cymru - iddo.

Yn siarad ar raglen Post Cyntaf Radio Cymru fore Iau, dywedodd y bydd yn pwysleisio mai "nid dim ond llais y DU sy'n bwysig", ond yn hytrach, y llywodraethau datganoledig hefyd.