Mesur Diddymu: 'Ymgais i fachu pŵer oddi wrth Gymru'

David Davis Image copyright Getty Images
Image caption Dywedodd David Davis ei fod yn barod i gydweithio â phleidiau eraill

Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones wedi cyhuddo Llywodraeth y DU o geisio "bachu pŵer" oddi wrth y gwledydd datganoledig.

Daw ei sylwadau wrth i'r Mesur Diddymu gael ei gyhoeddi, fydd yn trosglwyddo deddfau Ewropeaidd yn ôl i'r DU yn dilyn Brexit.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Brexit, David Davis y byddai'n "gweithio gydag unrhyw un" i sicrhau bod y ddeddf yn cael ei phasio'n llwyddiannus.

Mae'r blaid Lafur eisoes wedi dweud na fyddan nhw'n ei chefnogi fel ag y mae hi, gyda'r pleidiau eraill hefyd yn codi pryderon.

'Sicrwydd a dilyniant'

Bwriad y mesur yw diddymu Deddf Cymunedau Ewropeaidd 1972 - wnaeth ddod â Phrydain yn rhan o'r UE - a hynny ar ddiwrnod cyntaf Brexit.

Byddai hynny'n golygu na fyddai deddfau Ewropeaidd newydd yn cael eu rhoi ar waith yn y DU mwyach, ond byddai deddfau presennol yn parhau i fod mewn grym tan iddyn nhw gael eu newid neu ddiddymu.

Dyw'r mesur ddim yn rhoi manylion ar ba bolisïau fydd yn cael eu trosglwyddo, dim ond eu bod nhw i gyd yn dod yn gyfraith ddomestig maes o law.

Byddai'r DU hefyd yn cael dwy flynedd i gywiro unrhyw "wallau" oedd yn codi o'r mesur.

Image caption Bydd y Mesur Diddymu yn troi deddfau Ewropeaidd yn rai Prydeinig

Does dim disgwyl i ASau drafod y mesur nes yr hydref, ond bydd angen iddo gael ei basio erbyn i'r DU adael yr UE ym mis Mawrth 2019.

Dyna pryd y byddai'r gwrthbleidiau yn gobeithio sicrhau newidiadau i'r mesur, wrth iddyn nhw geisio manteisio ar ddiffyg mwyafrif y Ceidwadwyr yn Nhŷ'r Cyffredin.

Dywedodd Mr Davis y byddai'r mesur yn caniatau i Brexit ddigwydd gyda'r "sicrwydd, dilyniant a'r rheolaeth mwyaf posib".

"Wrth weithio gyda'n gilydd, er lles y wlad, fe allwn ni sicrhau fod gennym ni system gyfreithiol fydd yn gweithio'n iawn ar y diwrnod rydyn ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd," meddai.

Yn y cyfamser mae Dirprwy Lefarydd Tŷ'r Cyffredin, Eleanor Laing wedi dweud y bydd ymchwiliad yn cael ei gynnal wedi i'r mesur ymddangos ar wefan y Senedd cyn iddo gael ei gyflwyno'n ffurfiol i ASau.

'Angen parchu datganoli'

Mae Carwyn Jones wedi beirniadu'r mesur fodd bynnag gan ei ddisgrifio fel "ymgais hyf gan Lundain i fachu pŵer" ac "ymosodiad ar ddatganoli".

"Rydyn ni wedi ceisio trafod gyda Llywodraeth y DU sawl gwaith, ac wedi cyflwyno cynigion adeiladol ynghylch ffyrdd o sicrhau Brexit sy'n anrhydeddu canlyniad y refferendwm, diogelu'r economi a pharchu datganoli," meddai.

"Yn anffodus, mae'n hymdrechion i weithio gyda Llywodraeth y DU wedi'u hanwybyddu'n llwyr. Yn hytrach na thrafodaeth aeddfed ac adeiladol, mae Llywodraeth y DU wedi dangos anwybodaeth syfrdanol wrth gyhoeddi'r Bil hwn, sy'n sarhad i'r gwledydd datganoledig."

Ychwanegodd nad oedd "gobaith" y byddai'r Cynulliad yn cytuno i gynnwys y mesur os nad oedd yn "cael ei ddiwygio".

Ar hyn o bryd mae'r prif weinidog ym Mrwsel er mwyn cyfarfod Michael Barnier, y dyn fydd yn trafod Brexit ar ran yr UE, a hynny er mwyn cyflwyno gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar Brexit iddo.

Image caption Pryder Carwyn Jones yw y gallai'r mesur gipio pwerau oddi wrth y Cynulliad

Fe wnaeth Mr Jones hefyd gyhoeddi datganiad ar y cyd â Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon yn amlinellu eu safbwynt ar y Mesur Diddymu ymhellach.

Dywed y datganiad: "Fe ddechreuodd yr wythnos gyda'r Prif Weinidog [Theresa May] yn galw am ddull cydweithiol ac adeiladol gan y rhai y tu allan i Whitehall i gynorthwyo gwneud Brexit yn iawn.

"Cyhoeddi'r Mesur (Gadael) Yr Undeb Ewropeaidd heddiw oedd y prawf cyntaf i weld a yw llywodraeth y DU o ddifrif am hynny. Maen nhw wedi methu'r prawf yn llwyr.

"Mae [y mesur] yn ymosodiad ar egwyddorion sylfaenol datganoli ac fe allai ansefydlogi ein heconomïau."

Pleidiau eraill

Yn y cyfamser mae Plaid Cymru wedi cyhuddo Llywodraeth y DU o fygwth y wlad gydag "argyfwng cyfansoddiadol" wrth geisio "cryfhau gafael Llundain ar Gymru".

"Rydw i'n gandryll fod Llywodraeth Prydain yn gallu bod mor ddigywilydd wrth dresmasu ar y genedl Gymreig, a bod ein Llywodraeth Lafur yng Nghymru wedi bod mor ddi-glem yn eu gwrthwynebu," meddai Liz Saville Roberts AS.

"Mae'r prif weinidog wedi methu yn ei rwymedigaethau ac wedi caniatáu i'r Ceidwadwyr rwygo'r rheolau ar ddatganoli - mae wedi esgeuluso'i ddyletswydd fel prif weinidog y wlad."

Ychwanegodd: "Bydd [y mesur] yn sicrhau unwaith eto fod modd i San Steffan ddeddfu mewn materion Cymreig sydd wedi eu datganoli i Lywodraeth Cymru."

Image caption Mae Carwyn Jones a Nicola Sturgeon wedi dweud fod y Mesur Diddymu yn tanseilio datganoli

Ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol dywedodd y Farwnes Christine Humphreys: "Mae hwn yn ymgais bwriadol, oer, i danseilio pobl Cymru gan roi'r hawl i weinidogion Whitehall i wyrdroi penderfyniad gafodd eu gwneud gan ein llywodraeth etholedig ni.

"Fe bleidleisiodd pobl dros adael yr UE am eu bod yn teimlo bod yr UE yn rhy bwerus... fe fydd pobl hefyd yn gwrthod biwrocratiaeth chwyddiedig Whitehall gyda gwleidyddion barus yn ceisio bachu mwy o bwerau."

Mynnodd UKIP ar y llaw arall fod Carwyn Jones yn "croesi'r ffordd i chwilio am ffrae gyda San Steffan", a bod y mesur am drosglwyddo pwerau Ewropeaidd mewn meysydd datganoledig i'r Cynulliad.

"Does dim sail i bryderon y prif weinidog," meddai Neil Hamilton, arweinydd grŵp UKIP yn y Cynulliad. "Oes unrhyw syndod nad yw'n cael ei gymryd o ddifrif yn San Steffan?"