Pen-blwydd hapus Hywel!

Mae'r cyflwynydd bytholwyrdd Hywel Gwynfryn yn dathlu carreg filltir nodedig ar Gorffennaf 13. Mae o'n 75 oed. Pwy fasa'n meddwl.

Pen-blwydd hapus Hywel!

Image caption Mae hi'n teimlo mwy fel heddiw pan oedd o'n ohebydd ifanc ar... Heddiw!
Image caption Pen dafad? Blasus iawn!
Image caption Mae'r llun yma yn ddu a gwyn gan bod y tei yn llawer rhy llachar!
Image caption Y troellwr disgiau barfog yn nyddiau Helo Bobol
Image caption Hywel ac un o'i westeion wrth y bwrdd brecwast cynnar
Image caption Bob Dylan y canwr enwog o Langefni
Image caption Hywel yn chwarae rhan bwtler yn Haf o Hyd. Yn anffodus wnaeth o ddim ennill Oscar fel Hugh Griffith
Image caption Un o'r wythdegau. Am faint fuodd o yn y stafell wisgo yn cael g'neud y gwallt 'na?
Image caption Does dim angen awyren yn nôl i Fôn ar Hywel. Efo'r goler yna mi fydd o wedi hedfan i'r Fali mewn chwinciad
Image caption Darlledu yn y gwaed: Hywel yn ei elfen yn darlledu o Eisteddfod yr Urdd 2017 yng nghwmni Rhiannon Lewis