Caerdydd yn arwyddo Lee Tomlin o Bristol City

Lee Tomlin Image copyright Empics

Mae rheolwr Caerdydd, Neil Warnock yn dweud nad yw'r clwb yn chwilio am fwy o chwaraewyr ar ôl arwyddo Lee Tomlin o Bristol City.

Fe wnaeth y chwaraewr canol cae 28 oed arwyddo cytundeb tair blynedd ar ôl arwyddo am ffi o tua £2.9m, yn ôl BBC Radio Bristol.

"Tasen i wedi gallu dewis unrhyw chwaraewr dwi wedi bod ar ei ôl dros yr haf, byddai Tomlin wedi bod reit ar dop fy rhestr," meddai Warnock wrth BBC Radio Wales.

Cadarnhaodd rheolwr yr Adar Gleision fod y clwb hefyd wedi gwrthod cynigion am yr ymosodwr Kenneth Zohore a'r amddiffynnwr Sean Morrison.