Cyhuddo dyn yn dilyn gwrthdrawiad yn Sir Conwy

Gwrthdrawiad Cerrigydrudion Image copyright Llun Teulu
Image caption Bu farw Aidan Dominic McNicholl, 36 oed o ardal Bromborough ar Lannau Mersi a oedd yn gyrru'r beic modur.

Mae dyn gafodd ei arestio yn dilyn gwrthdrawiad angheuol yn Sir Conwy bellach wedi'i gyhuddo o achosi marwolaeth drwy yrru'n ddiofal.

Mae'r dyn 46 oed wedi'i ryddhau ar fechnïaeth i ymddangos yn Llys Ynadon Llandudno ddydd Gwener.

Digwyddodd y gwrthdrawiad angheuol ar ffordd yr A5 yng Ngherigydrudion ar 9 Gorffennaf rhwng beic modur a fan VW Transporter.

Bu farw Aidan Dominic McNicholl, 36 oed o ardal Bromborough ar Lannau Mersi a oedd yn gyrru'r beic modur.