Ofn a phryder yn y Fflint yn 1976
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Ofn a phryder yn y Fflint yn 1976

13 Gorffennaf 2017 Diweddarwyd 21:02 BST

Roedd Anne Dunne yn byw yn ardal Y Fflint gyda'i tri o blant pan ddarganfuwyd corff Janet Commins, 15 oed mewn cae yn Ysgol yn y dref yn 1976.

Mae Ms Dunne yn cofio'r digwyddiad yn glir ac mae hi'n disgrifio'r ofn a phryder oedd yn lleol bod llofrudd yn rhydd.

Ddydd Iau cafwyd Stephen Hough, 58 oed o'r dref yn euog o dreisio ac o ddynladdiad yn Llys y Goron y Wyddgrug.

Clywodd y llys bod Janet wedi ei lladd yn ystod ymosodiad rhyw, a bod ei chorff wedi cael ei symud yn ddiweddarach i'r man ble cafodd ei ddarganfod.