Cyhoeddi cynllun i annog cynghorau i gydweithio mwy

Cyngorau sir Image copyright Thinkstock/PA/BBC

Mae'n rhaid i gynghorau lleol wneud mwy er mwyn cadw eu hochr nhw o'r fargen sy'n sicrhau bodolaeth 22 cyngor yng Nghymru, yn ôl yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford.

Dywedodd Mr Drakeford, sydd hefyd yn gyfrifol am lywodraeth leol, bod angen 'cydweithio'n gyflymach a rhannu dyletswyddau mewnol rhwng awdurdodau', fel talu cyflogau staff, casglu treth cyngor a gwasanaethau cyfreithiol.

Ddydd Mawrth, bydd Mr Drakeford yn cyhoeddi manylion cynllun ar gyfer cydweithio rhwng cynghorau mewn tri rhanbarth - dau wedi eu canoli o amgylch Caerdydd ag Abertawe, a'r llall yn y gogledd.

Mae e hefyd yn ymgynghori ar roi'r bleidlais i bobl ifanc 16 ac 17 oed mewn etholiadau lleol.

Mae'n ddyletswydd ar gynghorau i gydweithio yn rhan o fesur llywodraeth leol fydd yn cael ei gyhoeddi y flwyddyn nesaf.

Fe benderfynodd y llywodraeth cael gwared ar gynllun i uno cynghorau y llynedd - cynllun a fyddai wedi gostwng y nifer o awdurdodau o 22 i gyn lleied ag wyth.

Image caption Mae angen mwy o "egni" i ddiwygio llywodraeth leol er mwyn sicrhau bod gwasanaethau yn fwy effeithlon, meddai Mark Drakeford AC

Fe ddywedodd Mr Drakeford fod rhai cynghorau yn anfodlon gyda'r syniad o rannu adnoddau. Mae angen mwy o "egni" i ddiwygio llywodraeth leol er mwyn sicrhau bod gwasanaethau yn fwy effeithlon, meddai.

Dywedodd wrth BBC Cymru: "Y fargen yw hyn: dwi wedi cytuno gyda'r awdurdodau lleol bydd y 22 ohonyn nhw'n parhau - maen nhw'n mynd i fodoli am y pum mlynedd nesaf a phum mlynedd ar ôl hynny.

"Y fargen yw cadw nhw, ond iddyn nhw ddod at ei gilydd i weithio'n fwy yn rhanbarthol gyda'i gilydd, i rannu adnoddau, i rannu staff, ac yn y blaen, ac i 'neud mwy gyda'i gilydd yn y dyfodol."

Mae'r llywodraeth hefyd yn gofyn am farn pobl ynglŷn â chaniatáu i garcharorion gael yr hawl i bleidleisio, er nad ydyn nhw'n gwybod eto os oes ganddyn nhw'r pwerau i gyflwyno polisi o'r fath.

Mwy o arbrofi

Mae'n bosib y bydd 'na arbrofi gyda phleidleisio yn electroneg, cynnal etholiadau ar ddyddiau eraill yn hytrach na dydd Iau, a chaniatáu i dramorwyr sy'n byw yng Nghymru fwrw pleidlais mewn etholiadau lleol ar ôl Brexit.

Mae 'na awgrymiadau hefyd y bydd awdurdodau lleol yn cael penderfynu ar eu system bleidleisio ei hun, drwy ddewis rhwng defnyddio system gyfrannol, yn hytrach na chadw i'r drefn bresennol - sef y cynta' i'r felin.

Wrth ymateb dywedodd Cadeirydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA), Y Cynghorydd Debbie Willcox ei bod hi'n "croesawu'r argymhelliant i gynghorau weithio'n agosach gyda'i gilydd".