Dathlu pensaernïaeth adeilad y Senedd ar stamp newydd

Stampiau Image copyright Post Brenhinol
Image caption Mae adeilad y Senedd yn un o nifer o adeiladau ar draws y DU sydd ar y stampiau newydd

Mae pensaernïaeth adeilad y Senedd yn cael ei ddathlu mewn casgliad newydd o stampiau.

Ddydd Gwener, mae'r Post Brenhinol yn lansio 10 o stampiau sy'n dangos rhai o adeiladau mwyaf eiconig y DU.

Ymysg yr adeiladau eraill yn y casgliad mae Senedd Yr Alban yng Nghaeredin a'r Eden Project yng Nghernyw.

Dywedodd Llywydd y Cynulliad, Elin Jones AC, ei bod "wrth ei bodd bod y Post Brenhinol wedi dewis cydnabod ein hadeilad a'i bwysigrwydd i fywyd Cymru".

Image copyright Post Brenhinol
Image caption Dywedodd y Llywydd bod y "gwydr a'r golau" yn y Senedd yn adlewyrchu'r sefydliad "agored a modern"