'Angen mwy o radiolegwyr'
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Mwy o radiolegwyr i sicrhau diagnosis 'ar y pryd iawn'

14 Gorffennaf 2017 Diweddarwyd 11:40 BST

Bydd cael mwy o radiolegwyr yn sicrhau bod cleifion canser Cymru yn cael "diagnosis o fewn yr adeg iawn", yn ôl un o arweinwyr y maes.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ddydd Gwener y bydd academi hyfforddi radiolegwyr gwerth £3.4m yn cael ei sefydlu.

Dywedodd Dr Sian Phillips, sy'n bennaeth hyfforddi radiolegwyr gyda Deoniaeth Cymru, bod cynnydd yn y galw am radiolegwyr ar hyn o bryd.