Jones: Llywodraeth y DU yn addo 'cydweithio' ar fesur

Carwyn Jones
Image caption Roedd Carwyn Jones yn siarad wrth i un o bwyllgorau'r Cynulliad gwrdd ym Mangor

Mae Llywodraeth y DU yn addo cydweithio i wneud y Mesur Diddymu yn "dderbyniol" i Lywodraeth Cymru, yn ôl Carwyn Jones.

Fe fynegodd y prif weinidog ei bryderon am y mesur ddydd Iau, gan ddweud ei fod yn "bachu grym" y Cynulliad.

Dywedodd wrth bwyllgor ddydd Gwener bod Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, wedi dweud wrtho y byddan nhw'n "gwneud y sefyllfa'n dderbyniol".

Fe ddywedodd Mr Cairns bod sylwadau'r prif weinidog wedi ei synnu, gan ychwanegu bod Llywodraeth Cymru wedi helpu i lunio'r mesur.

Creu polisi amaeth 'i Loegr'

Pwrpas y Mesur Diddymu yw troi cyfreithiau'r Undeb Ewropeaidd yn rai Prydeinig fel rhan o broses Brexit.

Mewn datganiad ddydd Iau, dywedodd Mr Jones - ar y cyd â Phrif Weinidog Yr Alban, Nicola Sturgeon - na allai gefnogi'r mesur fel y mae oherwydd pryderon ei fod yn dadwneud y broses o ddatganoli grym.

Yng nghyfarfod pwyllgor craffu ar y prif weinidog ym Mangor ddydd Gwener, dywedodd Mr Jones ei fod yn credu bod gweision sifil yn Llundain yn teimlo eu bod yn "well" na'r Cynulliad yng Nghaerdydd.

Dywedodd hefyd y byddai adran amaeth Llywodraeth y DU yn "creu polisi amaeth fyddai'n gweddu i un rhan o'r DU - Lloegr".

Image caption Bu Carwyn Jones yn cwrdd â phennaeth trafodaethau'r UE, Michel Barnier, ddydd Iau

Gofynnodd Simon Thomas AC os oedd Mr Jones yn pryderu y gallai Llywodraeth y DU orfodi eu polisïau nhw ar Gymru mewn meysydd sydd wedi'u datganoli, fel amaeth.

Dywedodd y prif weinidog na allai llywodraeth Theresa May fynnu bod polisi fel difa moch daear yn digwydd yma.

Ond ychwanegodd y gallai hynny ddigwydd pe bai difa moch daear yn rhan o gytundeb ar allforio rhwng y DU a'r UE wedi Brexit.

'Sicrwydd'

Dywedodd Mr Cairns wrth BBC Radio Wales mai bwriad y mesur oedd rhoi "sicrwydd" i allforwyr a gwneud yn siŵr bod rheolau yn eu lle erbyn y diwrnod y bydd y DU yn gadael yr UE.

"Yn y diwedd, 'dyn ni wedi dweud y bydd grymoedd yr awdurdodau datganoledig yn cael eu hymestyn, ond mae'n rhaid i ni ganolbwyntio ar y ffermwyr a busnesau yng Nghymru sydd eisiau allforio a pharhau i brynu a masnachu gyda'r UE," meddai.

"Os does dim cytundeb cyn i ni adael yr Undeb Ewropeaidd, yna mae 'na risg y byddan ni'n gadael ffermwyr a busnesau Cymru heb farchnad."