Sigurdsson: Abertawe 'ddim am gael eu bwlio'

Gylfi Sigurdsson Image copyright Rex Features

Mae perchnogion Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe wedi dweud na fyddant yn "cael eu bwlio" i werthu'r chwaraewr canol cae, Gylfi Sigurdsson, am swm sy'n is na'r pris gofyn o £50m.

Mae adroddiadau bod Abertawe wedi gwrthod cynigion o £40m am y chwaraewr gan Everton a Chaerlŷr.

Dywedodd perchnogion y clwb, Steve Kaplan a Jason Levien: "Ni fyddwn yn cael ein bwlio na'n gorfodi i wneud penderfyniad hyd nes bydd y clwb yn derbyn cynnig sy'n cyfateb â gwir werth y chwaraewr."

Nid yw Sigurdsson, sydd â thair blynedd ar ôl ar ei gytundeb, wedi teithio i'r Unol Daleithiau gyda'r Elyrch.

Mae Kaplan a Levien hefyd wedi rhybuddio unrhyw glybiau sydd â diddordeb mewn prynu Sigurdsson, na fydd bargen i'w gael wrth ei brynu.

Mae'r ddau berchennog hefyd yn gobeithio y bydd y chwaraewr yn ailymuno â'i gyd-chwaraewyr yn eu paratoadau cyn dechrau'r tymor.

Straeon perthnasol