Etholiad: Leanne Wood 'ddim yn difaru' peidio sefyll

leanne wood
Image caption Dywedodd Leanne Wood bod ffocws Plaid Cymru yn y Cynulliad

Nid yw Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, yn "difaru o gwbl" peidio â sefyll fel ymgeisydd yn yr etholiad cyffredinol.

Roedd Ms Wood wedi ystyried sefyll dros y blaid yn y Rhondda yn yr etholiad eleni.

Llafur enillodd y sedd, gyda'r aelod seneddol Chris Bryant yn cynyddu ei fwyafrif yn yr etholaeth.

Colli tir oedd hanes Plaid Cymru a'u hymgeisydd, Branwen Cennard.

'Penderfyniad cywir'

Mewn cyfweliad arbennig gyda rhaglen Sunday Politics Wales, dywedodd Ms Wood: "Dwi'n un sy'n cymryd ei hamser ac yn cymryd penderfyniadau mawr o ddifrif a doeddwn i ddim am ruthro i wneud penderfyniad."

Image copyright Getty Images
Image caption Methodd ymgeisydd y blaid ar gyfer sedd Rhondda, Branwen Cennard, ag efelychu llwyddiant Leanne Wood yn yr etholaeth flwyddyn ynghynt

Ychwanegodd: "Dwi'n meddwl y gwnes i'r penderfyniad cywir.

"Mae f'angen i yn y Cynulliad Cenedlaethol - dyma ble mae ffocws Plaid Cymru, dyma ble ry'n ni eisiau bod y blaid fwyaf ac yn sicr dyma ble mae fy mhrosiect i.

"Dwi ddim yn difaru o gwbl."

Wrth edrych yn ôl ar benderfyniad cyn-arweinydd Plaid Cymru, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas yn gynharach yn y flwyddyn wleidyddol i adael grŵp y blaid yn y Cynulliad ac eistedd fel aelod annibynnol, dywedodd Ms Wood: "Dwi'n meddwl y gwnaeth e'r penderfyniad iawn i'r ddau ohonom ni.

"Mae'r ddwy ochr yn hapusach o ganlyniad."

Sunday Politics Wales, BBC One Wales ddydd Sul, 16 Gorffennaf am 11:00.