Cau twneli Brynglas ar gyfer gwaith uwchraddio ar yr M4

twnel Brynglas i gyfeiriad y gorllewin Image copyright Norman Hyett/Geograph

Bydd ffordd yr M4 ger Casnewydd i gyfeiriad y gorllewin yn cael ei chau am gyfnod dros y penwythnos.

Mae twneli Brynglas yn cael eu huwchraddio ar hyn o bryd, ac mae hynny hefyd wedi golygu cau'r twneli yn achlysurol yn ystod y nos.

Bydd y ffordd i gyfeiriad y gorllewin, rhwng cyffordd 25A a chyffordd 26, yn cau am 20:00 nos Sadwrn ac yn ailagor am 06:00 ddydd Llun.

Yn y cyfamser bydd traffig yn cael ei ddargyfeirio ar hyd ffordd ddeheuol yr A48, rhwng cyffordd 24 a 28 yr M4.