Plentyn gafodd ei ddarganfod ar y stryd yn ôl gyda'i deulu

This child was found in Connah's Quay Image copyright Heddlu'r Gogledd

Mae bachgen bach a gafodd ei ddarganfod ar stryd yng Nghei Connah gan yr heddlu yn ôl gyda'i deulu.

Daeth plismyn o hyd i'r bachgen ar Stryd Howard fore Sadwrn.

Fe wnaeth Heddlu'r Gogledd drydar llun o'r plentyn gan ofyn "Ydych chi'n adnabod y plentyn?" ac apelio ar ei deulu i gysylltu â nhw.

Yn ddiweddarach dywedodd Heddlu'r Gogledd fod y bachgen bach bellach yn ôl gyda'i deulu ac fe ddiolchon nhw i'r cyhoedd am bob cymorth.