Aled Siôn Davies yn ennill teitl y byd am daflu disgen

Aled Siôn Davies Image copyright PA

Mae Aled Siôn Davies wedi ennill teitl y byd am daflu'r ddisgen F42 am y drydedd waith yn ei yrfa, gan sicrhau seithfed medal aur Prydain ym Mhencampwriaethau Para-athletau'r Byd yn Llundain.

Llwyddodd Davies i dorri record y gystadleuaeth, gan daflu'r ddisgen 51.54m a churo record Tom Habscheid o Luxembourg.

Bydd y Cymro'n cystadlu yng nghystadleuaeth taflu'r pwysau ddydd Sadwrn nesaf - ef hefyd yw'r pencampwr Olympaidd a byd presennol yn y gamp honno.

Mae tîm GB yn arwain yn y tabl medalau, gyda 13 i gyd, yn dilyn llwyddiant ysgubol ddydd Sadwrn, wrth i'r tîm ennill naw o fedalau yn ystod y diwrnod.