Oedi mawr ar yr M4 ar ôl i gerbyd droi drosodd

traffic cymru Image copyright Traffic Cymru

Mae cerbyd wedi troi drosodd ar draffordd yr M4 ger Abertawe, gan arwain at dagfeydd mawr tua'r dwyrain.

Fe gafodd y lôn ei chau yn dilyn y digwyddiad rhwng cyffordd 44 yn Llansamlet a chyffordd 43, Llandarcy.

Fe gafodd un lôn tua'r gorllewin hefyd ei chau i gynorthwyo'r gwasanaethau brys wrth iddynt ymateb i'r digwyddiad

Fe gafodd diffoddwyr tân a pharafeddygon eu galw i'r digwyddiad, nid oes manylion am unrhyw anafiadau ar hyn o bryd.