Achub dyn oedd yn abseilio ar glogwyn yn Eryri

Graig yr Ysfa, ger Tal-y-Bont Image copyright Eric Jones/Geograph
Image caption Mae Craig yr Ysfa, ger Tal-y-Bont, yn gyrchfan boblogaidd ymysg dringwyr

Mae dyn wedi cael ei achub oddi ar gopa yn Eryri dros nos ar ôl anafu ei glun a'i goes wrth abseilio ar glogwyn.

Fe gafodd timau achub mynydd o ddwy ganolfan eu galw i Graig yr Ysfa, ger Tal-y-Bont, Conwy.

Methodd hofrennydd o Gaernarfon ei gyrraedd oherwydd gwyntoedd cryf, felly roedd yn rhaid i achubwyr ddringo i'w gyrraedd.

Cafodd y dyn ei gludo i gerbyd tîm, am tua 02:15 ddydd Sul, ac aethpwyd ag ef i Ysbyty Gwynedd ym Mangor.